Mae rhai papurau newydd yn cyhoeddi tablau sy'n rhestru'r prifysgolion gorau - mae hyn yn arwain rhai pobl i feddwl bod rhai yn well na'i gilydd.
Ond, dydi hi ddim yn glir sut mae'r tablau yma'n cael eu llunio ac fe allai un papur newydd ddewis rhestr wahanol i bapur newydd arall. Does yna ddim o'r fath beth 芒'r "prifysgolion gorau".
Rhaid edrych yn ofalus iawn ar gyrsiau sy'n swnio'n debyg i'w gilydd mewn prifysgolion gwahanol oherwydd mae'n siwr y byddan nhw'n amrywio'n fawr o ran cynnwys a sut maen nhw'n cael eu cyflwyno.
Mae hi hefyd yn bwysig ystyried lle fyddet ti hapusaf yn byw ynddo, e.e. dinas fawr, ar gampws, yn bell o gartref.
Mae nifer fawr o bobl dan y camargraff bod pob cyflogwr yn ffafrio rhai prifysgolion arbennig, ond mewn gwirionedd mae mwy o ddiddordeb ganddyn nhw yn y cymwysterau sydd gen ti, dim lle cefaist ti nhw.
|