Paid 芒 phoeni, mae digon o ddewis:
- Cymera flwyddyn i ffwrdd a meddwl am fynd i'r brifysgol y flwyddyn wedyn efallai
- Cer am Brentisiaeth Fodern neu Brentisiaeth Fodern Gyflym
- Cer am swydd lle rwyt ti'n cael dy hyfforddi'n fewnol
- Cer am swydd heb hyfforddiant ffurfiol
- Cer am swydd dros dro tra'n ystyried dy opsiynau
- Dilyna gwrs coleg i arbenigo mewn maes arbennig neu hyd yn oed newid cyfeiriad
- Dilyna gwrs rhan-amser, e.e. gyda'r nos, tra'n gweithio (efallai y bydd yn rhaid iti dalu am y cwrs)
Cofia y gelli di bob amser fynd i'r brifysgol rywbryd eto os ydy'r cymwysterau iawn gen ti. Mae mwy a mwy o bobl yn mynd i'r brifysgol yn fyfyrwyr aeddfed gan fod gwahanol bobl yn teimlo'n barod i ddechrau astudio ar adegau gwahanol o'u bywyd.
Os wyt ti'n cael dy hun yn ddi-waith neu'n ansicr ynglyn a beth i'w wneud nesaf, mae'r cwmni gyrfa neu'r Ganolfan Waith leol wastad wrth law i helpu.
|