Llwybr
hir a diddorol i brifysgol
Oed:
26
Coleg
neu Brifysgol:
Prifysgol Cymru, Bangor, ar hyn
o bryd yn astudio Gwyddorau Biomolecwlaidd (eisoes
wedi astudio Gweinyddiaeth Fusnes a Rheoli'r
Amgylchedd ym Mhrifysgol Keele). Dwi'n dal ddim
yn gwybod beth fydda i'n ei wneud yn y dyfodol,
o bosibl PhD/Ymchwil yn gyntaf, yna dysgu o
bosib.
Gwneud
cais i brifysgol:
Mi wnes i gais i astudio Seicoleg yn Southampton,
ond doedd canlyniad fy Lefel A Seicoleg i ddim
yn ddigon da. Mi wnes i fynd i Royal Holloway
a Choleg Newydd Bedford, Llundain i astudio
Bioleg. Mi wnes i adael ar 么l tymor a threulio
gweddill y flwyddyn gartref, yn gweithio i ennill
arian. Y flwyddyn ganlynol, mi wnes i ddechrau
yn Keele yn astudio Gweinyddiaeth Fusnes a Rheoli'r
Amgylchedd. Tuag at ddiwedd fy mlwyddyn olaf,
mi wnes i gais i wneud cwrs MSc yn Aberystwyth,
ond roedden nhw am i mi wneud y cwrs dros ddwy
flynedd, felly mi wnes i benderfynu gwneud cwrs
Bioleg dwy flynedd yn lle hynny. Wrth raddio,
mi ddes i'n feichiog, a chyflwyno cais i ddechrau'r
flwyddyn ganlynol fel blwyddyn gyntaf. Mi wnes
i ddechrau ym Mangor yn wreiddiol yn astudio
Bioleg, ond ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf, mi
wnes i newid i astudio Gwyddorau Biomolecwlaidd.
Profiadau:
Llawer o waith, diffyg arian, digonedd o hwyl
a ffrindiau gwych. Gan fod gen i blentyn dwy
a hanner, ychydig o amser sydd gen i i gymdeithasu,
ond mi ges i amser i gymdeithasu wrth wneud
fy ngradd flaenorol.
Amser
gorau:
Cael canlyniadau arholiadau da - gwobr am yr
holl waith caled. Mae'n profi hefyd ei bod yn
bosibl gwneud gradd a magu plentyn. Mae'n rhoi
taw ar bawb oedd yn meddwl mod i'n hollol hurt
i wneud ail radd.
Amser
gwaethaf:
Gorfod ysgrifennu traethawd a gwneud arholiadau
ymarferol tra'n nyrsio plentyn s芒l oedd wedi
fy nghadw'n effro'r rhan fwyaf o'r nos. Darlithoedd
a sesiynau ymarferol yn cael eu hamserlennu
ar adegau sy'n hollol anghydnaws ag oriau meithrinfa,
felly'n methu eu mynychu.
Cyngor:
Mae hi wedi bod yn werth y drafferth, er ei
bod wedi cymryd amser hir. Dwi wedi mwynhau'n
fawr. Mae'n haws bwrw iddi i weithio yr eildro,
gan eich bod yn gwybod beth i'w ddisgwyl. Os
nad ydych chi'n siwr os ydych chi am fynd i'r
brifysgol yn syth ar 么l eich Lefel A, PEIDIWCH!
Cymerwch flwyddyn allan, gwnewch rywbeth defnyddiol
fydd yn ehangu'ch CV, a siaradwch gyda chymaint
o bobl ag sy'n bosibl er mwyn cael gymaint o
wybodaeth ag y medrwch chi.
|