Myfyriwr
gafodd le drwy'r broses glirio
Oed:
22
Coleg
neu Brifysgol:
Prifysgol Cymru, Abertawe, yn astudio Sbaeneg.
Fe fyddwn i'n
hoffi gweithio yn y Swyddfa Dramor a Chymanwlad
neu ym maes diplomyddiaeth.
Y
llwybr:
Fe wnes i gais drwy UCAS i astudio deintyddiaeth,
ond er fod pawb wedi rhagweld y byddwn i'n cael
graddau da, wnes i ddim cael cynnig lle. Fe
wnes i benderfynu newid i Sbaeneg, ac mi ges
i afael ar sawl prosbectws o bob cwr o Brydain.
Clirio:
Unwaith y gwelais i'r cwrs yn Abertawe, fe wnes
i ffonio tiwtor derbyniadau'r adran a holi a
fyddai'n bosibl cael lle drwy'r broses glirio.
Fe ddywedes i wrtho pa raddau oedd eu rhagweld
ar fy nghyfer ac fe ddywedodd y byddwn yn cael
lle pe bawn i'n cael y graddau hynny. Pan gyhoeddwyd
y graddau ym mis Awst, fe wnes i ofyn am ffurflen
glirio, ei hanfon i Abertawe, ac roedd popeth
wedi'i setlo o fewn wythnos.
Doedd
fy mhrofiad i o'r broses glirio ddim yn gymaint
o banig ag yr oeddwn i wedi'i ddychmygu. Y peth
pwysicaf yw bod gennych ddiddordeb yn y pwnc
rydych chi am ei astudio. Os ydych chi'n dangos
brwdfrydedd ac awydd i ddysgu, ddylech chi ddim
wynebu gormod o broblemau.
Cyngor:
Gwnewch yn siwr eich bod chi'n gwybod beth rydych
chi am ei wneud, a chynlluniwch rhag ofn na
chewch chi'r graddau angenrheidiol. Unwaith
mae'r canlyniadau wedi'u cyhoeddi, fe fyddwch
chi'n gwybod pwy sydd angen i chi eu ffonio,
i drafod y pynciau y mae gennych chi ddiddordeb
ynddyn nhw. Peidiwch 芒 gadael popeth tan y funud
olaf - cynlluniwch ymlaen llaw.
Pwyntiau
positif:
Doeddwn i ddim yn mynd i ail-sefyll f'arholiadau
a gwylio'r byd yn gwibio heibio i mi am flwyddyn
arall. Yn hytrach, fe wnes i'n fawr o'r hyn
oedd gen i, oedd yn fwy nag oeddwn i wedi ei
sylweddoli ar un adeg, ac mae hynny'n rhywbeth
wna'i byth ei ddifaru.
|