Myfyriwr
Hyn
Gyrfa:
Ar 么l gadael yr ysgol, fe fues i'n gweithio
fel prentis yn Nociau Caerdydd am 4 blynedd.
Wedyn,
fe wnes i dreulio 2 flynedd gyda'r Llynges Fasnachol,
yn bennaf ym Mae Bengal, Pacistan a Bangladesh.
Fe wnes i ddysgu mwy mewn 6 mis yn y gwledydd
hynny nag y bydden i wedi'i ddysgu mewn 10 mlynedd
gartref. Ar 么l dychwelyd, fe wnes i ymuno 芒
Konica fel Cynrychiolydd Technegol, yn hyfforddi
pobl sut i ddefnyddio offer llungop茂o.
Newid
gyrfa:
Yn 31 oed, fe wnes i benderfynu mynd yn 么l i'r
coleg, gan mod i wastad wedi bod eisiau gwneud
gradd feddygol. Roeddwn i mewn sefyllfa well
i wneud hynny erbyn hynny gan fod gen i arian
wrth gefn, ac roeddwn i'n ddigon aeddfed i eistedd
i lawr a chanolbwyntio ar y cwrs.
Pam
trin traed:
Yn niwrnod agored y coleg, y bobl trin traed
oedd y rhai cyntaf wnes i gyfarfod 芒 nhw, ac
fe wnaeth eu cwrs a鈥檜 hadnoddau dipyn o argraff
arna'i. Fe wnes i arwyddo i ddilyn cwrs BSc
Anrhydedd mewn Trin Traed. Roedd gen i ddiddordeb
yn y ffaith ei bod yn bosibl gwneud ystod o
waith gyda'r radd hon, yn breifat a chyda'r
Gwasanaeth Iechyd. i mi, roedd yn bwysig gwneud
gradd gyda chymhwyster fyddai'n ddefnyddiol
yn y pen draw. Mae galw cynyddol am wasanaethau
trin traed.
Bod yn fyfyriwr aeddfed:
Doedd hyn ddim yn broblem. Yn bersonol, roeddwn
i'n medru canolbwyntio'n well na phe bawn i
wedi gwneud gradd yn 18 oed, pan mae 'na lawer
o bethau eraill yn tynnu'ch sylw! Roeddwn i
wedi setlo yn fy mywyd, ac roeddwn i EISIAU
bod yno, yn gweithio. Doedd y myfyrwyr eraill
ddim yn poeni faint oedd fy oed i. Cyn belled
mod i'n gwisgo j卯ns a chrys-T ac yn cymryd rhan
ym mhob dim, roeddwn i'n cael fy nerbyn fel
un o'r criw.
Gyrfa newydd:
Ar 么l graddio, fe wnes i ddechrau gweithio i
Uned Ymddiriedolaeth Iechyd y Rhondda ac Uned
Ymddiriedolaeth Iechyd Merthyr Cynon, a 7 mlynedd
yn 么l, fe wnes i benderfynu agor practis preifat.
Mae
'na lawer o gyfyngiadau yn yr NHS - mae'r gwaith
preifat yn cynnig mwy o amrywiaeth. Rydych chi'n
cael troi eich llaw at anafiadau chwaraeon a
llawdriniaeth ewinedd, sy'n rhoi llawer o foddhad
(wir!)
Cyngor:
Edrychwch yn fanwl ar eich pwnc dewisol cyn
dechrau. Gwnewch y gwaith ymchwil, a gwnewch
yn siwr eich bod yn gwybod beth fydd canlyniad
y cwrs.
Fe
wnes i basio Lefel A mewn Bioleg Ddynol cyn
dechrau ar fy ngradd, ac fe fu'n werthfawr iawn.
Roedd llawer o bobl yn cyrraedd heb gymwysterau
o gwbl, ac yn ei chael hi'n anodd i wneud Ffisioleg
ac Anatomeg gan nad oedd ganddynt unrhyw wybodaeth
sylfaenol.
Dwi'n
meddwl y dylai pawb fynd allan, gweithio a mwynhau
eu hunain yn eu harddegau a'u hugeiniau. Wedyn
fe ddylen nhw fynd i'r coleg yn eu tridegau,
pan mae'r rhan fwyaf o' r pethau oedd yn tynnu
eu sylw pan yn ifanc wedi chwythu'u plwc.
|