|
Enghraifft 2 - CV Proffil Personol
- Person ifanc sy'n ceisio am swydd
Enw: |
Rhys Powell |
Cyfeiriad: |
16 Lloyd George Crescent, Llantrisant, Morgannwg LL4 8HL |
Rhif ffôn: |
01764 864353 |
E-bost: |
rpowell@surfnet.com |
Dyddiad geni: |
12 Chwefror 1979 |
- Rydw i’n gynorthwy-ydd gwerthu ifanc ac egnïol gyda dwy flynedd o brofiad mewn siop fawr sy’n gwerthu cyfrifiaduron.
- Rydw i’n gyfathrebwr effeithiol gyda sgiliau gofalu-am-gwsmeriaid cryf a record werthu lwyddiannus. Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf rydw i wedi ennill gwobr ‘cynorthwy-ydd gwerthu’r mis’ y rhanbarth ddwy waith am ragori ar y targedau gwerthu ac am gael ymateb positif yn ôl oddi wrth gwsmeriaid.
- Mae gen i wybodaeth ragorol am y meddalwedd adloniant sydd ar gael ar hyn o bryd, yn enwedig gemau cyfrifiadurol.
- Am y chwe mis diwethaf rydw i wedi bod yn arweinydd tîm dros dro yn yr adran feddalwedd gemau cyfrifiadurol, yn gyfrifol am drefnu a goruchwylio gwaith dau aelod staff rhan-amser ac un hyfforddai. Yn ystod y cyfnod hwn mae gwerthiant yr adran wedi codi ddeg ar hugain y cant.
|
- NVQ
3 mewn Adwerthu
- GNVQ Uwch mewn Technoleg Gwybodaeth (Pasio)
- TGAU mewn Saesneg (C), mathemateg (C), gwyddoniaeth (C), astudiaethau cyfrifiadur (B), Ffrangeg (D) a hanes (D)
|
- Coleg Addysg Bellach Dwyrain Morgannwg 1995 - 1997
- Ysgol Gyfun Llantrisant 1990 –1995
|
Cyflogaeth a Phrofiad Gwaith
|
Medi 1997 tan nawr: Modem World, Canolfan Siopa Llantrisant
- y flwyddyn gyntaf fel hyfforddai gyda dau fis o brofiad yr un yn yr adrannau gwerthu caledwedd, gwerthu meddalwedd, cefnogaeth dechnegol, gwasanaethu cwsmeriaid a chyfrifon cwsmeriaid
- yr ail flwyddyn fel cynorthwy-ydd gwerthu yn yr adran gwerthu meddalwedd
- y chwe mis diwethaf fel arweinydd tîm dros dro yn yr adran gemau cyfrifiadurol
Tachwedd 1995 tan Awst 1997: FW Woolworth’s, Stryd Fawr, Llantrisant
Cynorthwy-ydd gwerthu rhan-amser ar y cownter cerddoriaeth.
Ionawr 1997: PC Electronics, Stad Ddiwydiannol Llantrisant.
Pythefnos o brofiad gwaith yn yr adran rheoli ansawdd.
|
- Pêl-droed Americanaidd
- Dringo creigiau
- Chwarae’r drymiau mewn band
|
Gellir cael enwau a chyfeiriadau dau ganolwr drwy ofyn.
|
|
|