Enghraifft o lythyr cais – rhywun sy’n ymadael â’r ysgol
12 Heol Coed Llantrisant Morgannwg
LL5 9RG
18 Mai 2000
Mrs M Lloyd Cyfarwyddwr
Adnoddau’r Gweithlu
Ysbyty Morgannwg
Corporation Road
Llantrisant
Morgannwg
LL2 7PY
Annwyl Mrs Lloyd
Hoffwn
wneud cais am y swydd cynorthwy-ydd arlwyo dan hyfforddiant a hysbysebwyd yn y ‘Mid Wales Observer’ ddoe.
Rwyf yn 16 mlwydd oed ac ar fy mlwyddyn olaf yn Ysgol Gyfun Llantrisant. Rwyf newydd gwblhau CGCC Canolradd
Rhan Un mewn Lletygarwch ac Arlwyo ac ym mis Mehefin byddaf yn sefyll arholiadau TGAU mewn Saesneg, mathemateg,
Cymraeg, astudiaethau crefyddol a gwyddoniaeth. Yn gynharach eleni treuliais bythefnos o brofiad gwaith
yng nghaffi llysieuol Neis a Blasus yn y dref a mwynheais hynny’n fawr. Tra’r oeddwn yno bûm yn helpu’r
perchennog i baratoi salads a quiches, yn gweini ar y cwsmeriaid ac yn glanhau’r gegin a’r caffi.
Rwyf
hefyd wedi helpu i weini bwyd a diod mewn nosweithiau i rieni yn yr ysgol ac mewn cyfarfodydd llywodraethwyr.
Yn yr ysgol rwy’n chwarae i dîm pêl-rwyd yr ysgol ac yn helpu i redeg siop yr ysgol. Fy niddordebau eraill
yw mynd i gigs cerddoriaeth ac ioga.
Hoffwn weithio i wasanaeth arlwyo’r ysbyty gan ei fod yn cynnig hyfforddiant
sy’n arwain at NVQs ac am fy mod yn credu fod rhoi bwyd da i gleifion mewn ysbyty yn waith gwerth chweil.
I gael tystlythyron cysylltwch â Miss G Williams, Pennaeth Economeg y Cartref, Ysgol Gyfun Llantrisant,
Park Road, Llantrisant, LL4 6YP a Mr S Morgan, Caffi Neis a Blasus, Stryd Fawr, Llantrisant, LL1 5ZY. Rydw i ar gael ar gyfer cyfweliad unrhyw adeg.
Yn gywir
CERI JONES
Ìý
|