Deg awgrym ar gyfer gwella dy sgiliau cyfweliad
Cofia baratoi
Dylet ddysgu cymaint â phosib am y cwmni a’r
swydd ymlaen llaw.
Ceisia ganfod pa fath o gyfweliad rwyt ti’n debygol o’i gael. Sgwrs gyfeillgar un-i-un?
Panel cyfweld ffurfiol? Profion ysgrifenedig?
Meddylia sut mae ateb y cwestiynau amlwg (‘pam ydych chi
eisiau’r swydd hon?’) y noson gynt.
Meddylia am rai cwestiynau yr hoffet ti eu gofyn. Dewisa rai sy’n
swnio fel pe bai gen ti ddiddordeb gwirioneddol yn y swydd fel ‘fedrwch chi ddweud mwy wrtha i am yr hyfforddiant?’
Bydda’n drefnus
Cofia wisgo’n daclus ac edrych yn dwt.
Gwna’n siwr dy fod ti’n mynd i’r lle iawn, ar y
dyddiad iawn ac erbyn yr amser cywir.
Gwna’n siwr dy fod ti’n gwybod sut mae mynd yno a chofia adael cartref
mewn da bryd.
Gwna’n siwr dy fod ti’n gwybod i ble i fynd a phwy i ofyn amdano pan gyrhaeddi di. Dylet
fynd ag unrhyw gerdyn apwyntiad neu lythyr gyda ti.
Dylet fynd ag unrhyw beth a allai fod o ddiddordeb
i’r sawl sy’n cyfweld gyda ti – tystysgrifau arholiad, cofnod cyrhaeddiad, adroddiad profiad gwaith ayb.
Yn ystod y cyfweliad
Cofia ateb pob cwestiwn cyn llawned â phosib. Dyma dy gyfle di i brofi mai ti yw’r
person ar gyfer y swydd.
|