| |
|
| |
Gig y C诺ps, Aberystwyth
Adolygiad gig Fflur Dafydd, Alun Tan Lan a Mim Twm Llai gan Leusa Fflur.
Lle a phryd
C诺ps Aberystwyth, Nos Wener Hydref y 1af
Y bandiau:
Fflur Dafydd, Alun Tan Lan a Mim Twm Llai
Awyrgylch
Gan fod y C诺ps mor fach, mi oedd y lle yn orlawn, ond roedd pawb yn rhoi gwrandawiad da i'r bandiau, ac erbyn y diwedd roedd pawb ar eu traed ac ar ben y meinciau yn dawnsio! Yr unig g诺yn oedd ei bod hi'n anodd clywed yn cefn yr ystafell gan ei bod hi'n hir, a bod y ddau fand cynta' yn chwarae'n acwstig felly'n eitha' tawel.
Trac y noson
Erbyn diwedd y noson roedd pawb wedi mynd i ganu hefo Mim Twm Llai, felly roedd pob c芒n yn hollol wych. Ond yr un sy'n aros yn y co' ydi'r cover o Mr.Bobby gan Manu Chao - mi oedd pawb yn gweiddi canu, oedd o'n swpyrb!
Disgrifiwch y perfformiadau
Fflur Dafydd oedd y cynta' i berfformio. Hi oedd prif leisydd y band pop/ffync Y Panics nes iddyn nhw ddod i ben yn Eisteddfod Casnewydd yr haf diwethaf, ac mae'r gerddoriaeth mae hi yn ei chwarae ar ben ei hun yn gwbwl wahanol. Mi ddechreuodd hi gyda ch芒n acwstig, a mi ddistewodd pawb gan bod y g芒n mor swynol. Mi fywiogodd y set wrth fynd ymlaen, a mi ymunodd sax, bongos a bass gyda Fflur a'i git芒r acwstig. 'Dw i'n siwr gyda lot o wrano bydd y band yn datblygu i fod yn dda iawn - gobeithio bod albym neu EP ar y ffordd!Alun Tan Lan oedd wedyn, canwr sydd wedi llwyddo i gael llawer o sylw dros yr haf o ganlyniad i gigio di-ddiwedd a rhyddhau'r albym felodig Aderyn Papur.Mi oedd o yn canu ar ben ei hun hefo'i git芒r ac organ geg, a mi ganodd yr holl glasuron oddi-ar ei albym, gan grisialu ei set gyda'r g芒n arbennig, Aderyn Papur. Mim Twm Llai oedd yn gorffen, a mi ddechreuodd ei set gyda sawl c芒n newydd. Yna mi ganodd o ganeuon oddi ar ei albym 'O'r Sbensh', a chael pawb i ganu a neidio fyny a lawr fel m锚niacs. Uchafbwyntiau yn sicr oedd y caneuon poblogaidd 'Clwb y Tylluanod' a 'Tafarn Yn Nolrhedyn'. Mi ganodd sawl c芒n gan yr athrylith Meic Stevens, ac erbyn y diwedd, roedd y set wedi mynd yn un jam enfawr a phob c芒n yn llifo mewn i'w gilydd - perfformiad anhygoel!
Uchafbwynt y noson
Sawl uchafbwynt am resymau gwahanol! Mi roedd c芒n gynta' Fflur Dafydd yn sicr yn haeddu mensh. Perfformiad egn茂ol Alun hefyd yn sbot-on. Ond YR uchafbwynt si诺r o fod oedd pawb yn y dafarn yn canu caneuon Mim Twm dros bob man - mi oedd yr awyrgylch yn wych.
Y peth gwaethaf am y noson
Y ffaith bod y lleoliad braidd yn fach, mi oedd hi'n anodd symud o gwmpas a 'dw i'n siwr mod i wedi cicio sawl person diflas oedd yn mynnu isda ar lawr tra o'n i yn dawnsio fel pengwin ar E's.
Achlysur Roc a Rol
Doedd dim llawer o roc a r么l i'w weld !
Beth sy'n aros yn y cof
Popeth heblaw y darna 'dw i wedi anghofio
Talent gorau'r noson
Alun Tan Lan ymhob ffordd bosib !!
Marciau allan o ddeg
8.42
Un gair am y gig
wiwerllyd
|
|
|