大象传媒

Explore the 大象传媒
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
C2 ar Radio Cymru

大象传媒 Homepage
HAFAN Cymru

Chwaraeon
Radio Cymru
C2
Adolygu CDs
Adolygu Gigs
Amserlen
Cyflwynwyr
Cysylltiadau
Dewis Huw
Dewis Huw
Dewis Lisa
e-Gofnod
Galeri C2
G锚m C2
Gigs
骋飞别驳补尘别谤芒耻
Gwesteion
Labeli
Newyddion
Prynu ar y we
Sesiwn Acwstig
Sesiwn C2
厂迟辞谤茂补耻
Siart

Bitesize TGAU
大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

C2 ar Radio Cymru C2 ar Radio Cymru
The Keys, Ashokan, Mozz
Roc y Castell 2004
Gan Lowri Johnston


Lle a phryd
Aberyswyth, 10ed Gorffennaf 2004

Y bandiau
Drive By Suicide, Swiss Tony, Three Minute Warning, Mozz, Ashokan, Smokestack, The Keys

Disgrifiwch yr awyrgylch a'r perfformiad
Yn ei ail flwyddyn, mae Castell Rock wedi datblygu i fod yn un o wyliau mawr yr haf yng Nghymru. Mae ei leoliad gwych yng nghastell Aberystwyth, gyda golygfa ffantastig dros y m么r a'r bae yn ddigon i ddenu unrhyw un - ond pan mae diwrnod cyfan o fandiau yn chwarae hefyd a'r cyfan am ddim? Anodd gwrthod y cyfle...

Band cyntaf y diwrnod oedd Drive By Suicide. Fe fwynheais eu set - dim byd newydd a gwreiddiol, ond dim byd ofnadwy chwaith. O leiaf bod y gerddoriaeth yn well na enw'r band...! Band lleol oedd i ddilyn - Swiss Tony - sy'n amlwg yn reit boblogaidd yn yr ardal. Caneuon reit catchy ac addasiad diddorol o g芒n Rachel Stevens - LA ex, gyda'r gynulleidfa i gyd yn cyd-ganu yn dawel bach!

Yn drydydd oedd Three Minute Warning o Fachynlleth. Band eithaf trwm - offerynwyr da ond y canu ddim cweit yn taro deuddeg ar adegau. Cafwyd set da iawn gan Mozz i ddilyn, gan gynnwys y ffefrynnau Edrych ar y Merched ac Anturiaethau ysgol Sul. Roedd eu fersiwn nhw o Black Magic Woman hefyd yn wych, a'r band yn rocio yn 么l eu harfer!

I ddilyn oedd Ashokan, yn wreiddiol o Bontypridd. Dyma fand 芒 llawer (iawn, iawn) o egni, ac yn amlwg yn mwynhau eu hunan ar lwyfan. Yn wir, dwi ddim yn meddwl bod Marc (bass) yn aros yn llonydd am fwy na cwpwl o eiliadau yn ystod y perfformiad - ac yn rhedeg o gwmpas y llwyfan, neidio ar ben yr amps, ac allan o gwmpas y gynulleidfa (nai ddim s么n am y pryd gwympodd e dros y set ddrymiau...!). Chwaraewyd cwpwl o ganeuon newydd - eithaf trwm, a oedd yn swnio'n reit addawol. Yr unig beth negyddol am y set oedd absenoldeb y g芒n "Y boi sydd methu ffonio n么l", er i sawl un o'r gynulleidfa weiddi amdano!

Ail fand Sam Mozz, trefnwr y diwrnod, chwaraeodd nesaf, sef y Poppies. Maent wedi cael tipyn o sylw yn ddiweddar, ac mae eu caneuon yn eithaf da, ond ddim mor 'roci' 芒 Mozz (sori, mae'n anodd peidio cymharu'r ddau!).

Roedd rhyw dinc-Rage-Against-The-Machine-aidd i'r band nesaf, sef Jape. Doeddwn i ddim yn rhy hoff o'r band yma - ond, fy marn personol yw hwnna. Dwi'n meddwl mod i yn y lleiafrif a dweud y gwir, achos roedd sawl un yn y gynulleidfa i'w gweld wedi eu plesio hefo'r band yma!

Dwi'n meddwl y peth wnaeth fy nharo i mwyaf am y band nesaf - Smokestack - oedd cymaint o bobl oedd wedi dod i'w gweld nhw yn benodol. Roedd y lle yn orlawn erbyn iddyn nhw ddod arno, a pawb yn edrych yn eiddgar at y llwyfan. Dyma fand henaf y diwrnod yn bendant - band o Aberystwyth a ffurfiwyd dros ugain mlynedd yn 么l. Chwaraewyd set o glasuron o'r 60au a'r 70au - a ysgogodd sawl un yn y gynulleidfa i ddawnsio, ac roedd yn amlwg bod y gynulleidfa i gyd yn mwynhau - o'r plant i'r arddegwyr i'r to hyn.

Cafwyd set newydd gan Kentucky AFC - ac ar yr un pryd fe ddechreuodd hi fwrw glaw yn drwm iawn. Trueni mawr achos aeth sawl un i chwilio am gysgod - dim ond y ffans-go-iawn arhosodd allan yn y glaw i wrando ac i ddawnsio! Fe gollodd y band hi ar adegau - ac roedd rhai caneuon yn eithaf llac. Dim un o berfformiadau gorau'r band dwi wedi ei weld, ond roedd y rhan helaeth o'r gynulleidfa yn poeni mwy am wlychu eu gwallt na'r gerddoriaeth...

Band reit wahanol i ddilyn - unig band y diwrnod i gynnwys merched. O Aberystwyth, mae'r Hot Puppies wedi creu tipyn o enw i'w hunan, ac roedd eu set yn dda iawn. Dyma'r tro cyntaf i mi weld nhw'n chwarae'n fyw, ac fe gefais fy mhlesio. Mae llais y prif leisydd yn swynol, ac roedd yn ychwanegu rhywbeth gwahanol i'r diwrnod.

Ac i orffen, The Keys. Murry the Hump gynt, mae gan y band lwyth o ganeuon catchy iawn, ac yn bendant dyma'r band sy'n ceisio mwyaf - ac yn bwysicach - yn llwyddo, i gyfathrebu gyda'r gynulleidfa. Mae eu cais i gael gwared o'r baryn o flaen y llwyfan yn ysgogi i bawb wthio ymlaen, ac mae'r gynulleidfa yn mynd yn wyllt! Mae c芒n olaf y diwrnod - Love your Sons and Daughters yn wych - diwedd gr锚t i ddiwrnod ffantastig.

Sylwadau ychwanegol?
Llongyfarchiadau mawr i'r trefnwyr am greu g诺yl elusennol mor lwyddiannus, a gobeithio y bydd yn mynd o nerth i nerth yn y dyfodol. Edrychwn ymlaen at flwyddyn nesaf!


Holl raglenni C2, ar gael i wrando eto unrhyw amser am 7 diwrnod.

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

Gwylia hwn!

Fideos a setiau byw o gigs gorau'r Steddfod!



Amserlen C2:
Wythnos y Cyflwynwyr

Cysylltiadau, artistiaid, bandiau...


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy