Sesiwn Fawr 2005
Gan Esyllt Dafydd
Lle a phryd
Sesiwn Fawr Dolgellau: Nos Wener, Gorffennaf 15ed 2005
Y bandiau
Batala Bermo
Ummh
Sibrydion
DJ Lladron, Sleifar a'r teulu
Killa Kella
Super Furry Animals
Awyrgylch
Roedd hi'n noson anhygoel o braf ac ro'n i'n barod am noson dda. Ers misoedd, ro'n i wedi bod yn edrych mlaen, yn enwedig i gael gweld y SFA eto. Wrth giwio i gael mynediad i'r Farian, roedd cynnwrf yn datblygu a phawb yn aros i gael gweld sut noson fydde hi.Hon oedd y tro cyntaf i mi fynd i'r Sesiwn ers iddi symud o ganol y dref, ac mae'n rhaid i mi gyfaddef nad oedd yr awyrgylch cystal 芒'r hyn oeddwn i'n cofio. Ta waeth am hyn, gr锚t oedd cael gweld hen ffrindiau a malu awyr gyda dieithriaid- rhywbeth y profodd pawb oedd yno dwi'n siwr.
Roedd cyfuniad o dywydd da, cwmni da a pherfformiadau gwych wedi llwyddo i greu bwrlwm hafaidd cofiadwy.
Trac y noson
SFA: Cryndod yn dy lais
Mae'r g芒n hon yn fy llorio bob tro, a llwyddodd i dawelu y miloedd oedd yn y gynulleidfa.
Disgrifiwch y perfformiadau
Batala Bermo: Ffordd wych o ddechrau'r noson. Roedd rhythmau egn茂ol y drymiau yn codi hwyliau pawb oedd yn gwrando. Gallen i fod wedi sefyll yno'n gwrando arnynt am hydoedd.
Ummh: Perfformiad solat, ac yn ymateb yn dda i'r dorf.
Sibrydion: Yn cynnwys Meilir ag Osian Gwynedd o Big Leaves, ro'n i'n edrych mlaen i glywed y set yma - dwi wedi bod yn dilyn y ddau yma ers dyddiau Big Leaves a Beganifs gynt. Doedd hi ddim yn ymddangos fod llawer o gynulleidfa yn eu gwylio, ond roedd pob un yno'n edrych fel pe baent yn mwynhau. Ro'n i'n falch clywed sŵn gwahanol i Big Leaves, ac roedd yn argoeli'n dda fy mod i wedi ysu am gael clywed mwy ar 么l iddynt orffen!
DJ Lladron, Sleifar a'r teulu: Y teulu oedd Aron Elias, Ed Peps, Tew Shady, Cofi Bach, Chef, Sleifar, Cynan Llwyd, Pendafad, Paul B a Dyl Mei (sori os dwi di gadael rhywun allan!) Dwi ddim yn rhywun sy fel arfer yn mwynhau'r busnes rapio ma, ond cefais fy synnu- dyma oedd fy hoff berfformiad. Erbyn hyn roedd llawer o bobl wedi ymgynnull wrth y prif lwyfan, ac roedd ymwneud da rhwng y perfformwyr a'r gynulleidfa.
Killa Kella: Beatboxio a chanu ar yr un pryd- roedd wedi creu argraff arnai. Ond rhaid cyfaddef fod y newydd-deb wedi pylu rhywfaint erbyn y diwedd.
Super Furry Animals: Perfformiad gwych arall gan un o'm hoff grwpiau. Roedd y caneuon bywiog megis The Man Don't Give a F**k a Caliemro wedi cynnau moshio gwyllt yn y dorf. Dyma nhw'n chwarae sawl c芒n o'u record hir newydd, Love Kraft hefyd (allan ar 22ain Awst). Roedd Lazer Beam yn un o'n ffefrynnau.
Uchafbwynt y noson
Sibrydion. Dyma'r tro cyntaf i mi glywed y grŵp yma'n perfformio ac ni chefais fy siomi.
Y peth gwaethaf am y noson
Y moshio reit ym mlaen y dorf adeg SFA- roedd fy nhraed yn rhacs ar ei ddiwedd, a rhaid dweud, roedd y gwthio diangen gan rai wedi difetha fy ngwerthfawrogiad o rai caneuon.
Achlysur Roc a Rol
Adeg set y SFA, ro'n i'n sefyll drws nesa i ryw foi. Cefais fy ngwthio yn ei erbyn ar un pwynt, ac ar 么l ymddiheuro, dyma fe'n troi atai a dweud:
"Dio'm ots sdi...dwi di colli'n sgidia!"
Beth sy'n aros yn y cof?
Sleifar a'r teulu- do'n i ddim wedi disgwyl mwynhau'r set yma gymaint.
Talent gorau'r noson
Sibrydion- wi'n edrych mlaen i glywed mwy gan y rhain.
Marciau allan o ddeg
9
Un gair am y gig
Hafaidd
Unrhyw sylwadau eraill? Cynghorion? Rhybuddion?
Braint oedd cael clywed nifer o ganeuon oddi ar record hir newydd y SFA, ond hoffwn i pe baent wedi chwarae mwy o hen ffefrynnau Cymraeg.
Bydd angen i drefnwyr y Sesiwn adael i bobl gael mynediad i'r Marian cyn i'r perfformwyr ddechrau chwarae tro nesaf. Doedd neb yn cael mynediad tan 7.30yh, a dyna pryd oedd Batala Bermo'n dechrau eu set. Golygodd hyn nad oedd tyrfa sylweddol yna am rhyw 10 munud.