| |
|
| |
Cerys Matthews...
Sesiwn Fawr '04 (Gwener) Lowri Johnston
Lle a phryd
Dolgellau, Nos Wener 16 Gorffennaf 2004
Y bandiau
Gola' Ola', Anweledig, Kentucky AFC, Cerys Mathews
Disgrifiwch yr awyrgylch a'r perfformiad
Yn agor penwythnos Sesiwn Fawr Dolgellau oedd Gola' Ola' - band ifanc o'r Gogledd. Caneuon catchy ac offerynwyr dawnus, mae yma botensial! Mae'r drum solo a chwaraewyd ar ddiwedd y set yn aros yn fy nghof - dechrau da i be oedd yn addo i fod yn sesiwn a hanner!
Erbyn i Anweledig ymddangos, roedd mwy o bobl wedi cyrraedd a pawb i weld yn mwynhau. Fel arfer, roedd Ceri a'r band yn llawn egni ac yn diddanu'r gynulleidfa (yn enwedig y Shrek Cymraeg ar y bongos!). Graffiti Cymraeg a Dwi'n Gwybod Sut ti'n Licio dy De yn ddau o fy ffefrynnau i am y noson - a Sosban Fach wrth gwrs! Roedd hi braidd yn rhyfedd gweld Anweledig yn gynnar yn y noson - gwrthgyferbyniad i'w set nhw i gloi nos Sadwrn llynedd yn y Sesiwn.
Kentucky AFC o Borthmadog oedd i ddilyn - set hir iawn oedd yn cynnwys llawer o'r ffefrynnau megis Unarddeg, eu fersiwn o g芒n y Gorky's - Iechyd Da, Bodlon ac Outlaw i orffen. Set egniol da iawn - a taflwyd nicyrs mewn i'r gynulleidfa hyd yn oed, fel anrheg bach! Edrych ymlaen at yr albwm a fydd allan cyn bo hir ar label Boobytrap.
Ac yna i brif atyniad y noson - Cerys Mathews. Un gair sydd i'w disgrifio - ffantastig. Roedd ei phresenoldeb wedi denu llawer o bobl na fyddai wedi dod fel arall i'r Sesiwn, ac erbyn iddi ymddangos roedd y lle yn orlawn. Yng nghanol y croeso cynnes iddi gan y gynulleidfa, cafwyd llu o ganeuon swynol, gan gynnwys Chardonnay ac Arglwydd Dyma Fi, dau gan o'i halbwm Cockahoop. Fel ffan o Catatonia, roeddwn i'n falch iawn iddi agor ei set gyda'r clasur 'Gyda Gw锚n', ac hefyd 'Johnny Come Lately' yn hwyrach. Roedd y gynulleidfa yn amlwg yn ei haddoli, a llygaid pawb yn syllu ar y llwyfan, ar goll yn melodi hyfryd ei chaneuon, er waetha'r glaw!
Sylwadau ychwanegol?
脗'r farn am y noson gynta' felly? Gyda dau o fandiau mawr y s卯n roc Gymraeg ac un 芒 llawer iawn o botensial - anodd peidio mwynhau. Ond gyda un o fawrion y s卯n gerddoriaeth yn Genedlaethol yn bresennol, amhosib peidio! Gyda'r cwrw yn llifo - noson yn cynnwys llawer o ddawnsio, llawer o ganu, a llawer iawn o hwyl!
|
|
|