|
Bryn F么n, Meinir...
Sesiwn Fawr 04 (Sadwrn) Lowri Johnston
Lle a phryd
Nos Sadwrn, Dolgellau, 17 Gorffennaf 2004
Y bandiau
Maharishi, Celtish, Yr Electic Ceili Band, Mabon, Bob Delyn a'r Ebillion, Meinir Gwilym, Bryn F么n
Disgrifiwch yr awyrgylch a'r perfformiad
Ar 么l noson wych o gerddoriaeth cyfoes y S卯n Roc Gymraeg, roedd y dydd Sadwrn yn cynnig cerddoriaeth tipyn yn wahanol i'r noson gynt. Ac roedd mwy o amrywiaeth yn y gynulleidfa hefyd - o'r ifanc iawn i'r hen, a dyma beth sy'n gwneud y Sesiwn yn ddigwyddiad mor arbennig, mae yma groeso a rhywbeth i bawb.
Yn wahanol i llynedd, dwy lwyfan oedd ar y dydd Sadwrn (pedair y llynedd), a band cyntaf i diwrnod i mi oedd Mahirishi. Set iawn er yn eithaf di-egni, ond gan ei fod yn gynnar yn y dydd dim ond y ffyddloniaid 芒'r rhai oedd yn medru ymlusgo i ffwrdd o'u pebyll gwlyb oedd yn bresennol.
I ddilyn oedd Celtish, band o ar draws Prydain a'r gwledydd Celtaidd. Roedd gan y prif leisydd lais swynol, ac roedd y gan olaf - Motherland - yn ffantastig, gyda rhyw dinc o gerddoriaeth Gwyddelig iddi. Yn wahanol i neithiwr, ymddangosodd yr haul i roi ei bendith ar y Sesiwn, a rhaid dweud bod ei phresenoldeb wedi gwneud tipyn o wahaniaeth i hwyliau'r gynulleidfa a'r bandiau.
Yr Electic Ceili Band oedd i ddilyn - rhyw fath o Supergroup Gwyddelig fel y cyflwynwyd nhw gan Dafydd Du. Roedd y band yma yn hollol wych - yn llawn egni ac yn cyfathrebu'n dda gyda'r gynulleidfa, gyda nifer yn dawnsio'n egniol! A dweud y gwir, dwi erioed wedi gweld rhywun yn dawnsio mor egniol gan chwarae'r ffidl mor wych yr un pryd a'r dyn yn y band yma! Yn bendant, dyma un o fanteision y Sesiwn Fawr, ei fod yn rhoi cyfle i bobl weld bandiau na fyddent fel arfer yn mynd i'w gweld.
Yn anffodus, fel rhywun sydd ddim wedi arfer 芒 gwrando ar gerddoriaeth gwerin yn aml, roedd y bandiau oedd i ddilyn yn debyg iawn i'r ddau flaenorol. Er yn dda iawn - yn enwedig Mabon - roedd y diffyg amrywiaeth yn golygu bod pobl yn dechrau colli diddordeb.
Chwa o awyr iach oedd Bob Delyn a'r Ebillion felly. Set gwych, gan gynnwys sawl can o'u albwm diweddaraf - Dor茅 - Pethau Bychain Dewi Sant yn ffefryn personol. Cyflwynwyd Tr锚n Bach y Sgwarnogod gan Twm Morys fel "c芒n hollol newydd" - rhywbeth a ddrysodd llawer! Trueni nad oedd mwy yno i weld y band - roedd y perfformiad yn ffantastig, er gwaethaf rhai problemau sain nawr ac yn y man.
Erbyn i Meinir Gwilym ymddangos - gyda band mawr iawn yn gefn iddi - roedd y lle yn orlawn, a chwaraewyd set llawn o ganeuon a oedd yn ysgogi pawb i gyd-ganu. Fernhill oedd i ddilyn - ond roedd yn ymddangos bod gan y rhan fwyaf o'r gynulleidfa mwy o ddiddordeb yn y bar na'r band. Set ddiddorol, ond ddim yn ddigon i ddal sylw pawb. Yn cloi'r penwythnos oedd Bryn F么n - set o glasuron a pob aelod o'r gynulleidfa i'w gweld yn gwybod pob gair i bob c芒n. Roedd y set yn cynnwys Yr Ardd, Rebal Wicend, cwpwl o ganeuon o Sobin A'r Smaeliaid megis Byw mewn Bocsys, Ceidwad y Goleudy ac Un funud Fach i orffen - cyn ein anthem Genedlaethol.
Ar un ochr, dwi'n meddwl bod hyn wedi bod yn ddewis gwael o fand i gloi'r noson, achos bod cymaint o fandiau arall ifancach sydd angen y slot yma er mwyn ehangu eu cynulleidfa, ond eto dyma ffordd y trefnwyr o sicrhau cynulleidfa fawr. Dwi'n teimlo mai'r un hen fand sy'n cloi pob g诺yl, ac mae'n bwysig - os am feithrin bandiau newydd ifancach, a rhoi'r cyfle iddynt ehangu eu gorwelion - i gynnwys amrywiaeth, yn enwedig wrth ystyried cymaint o fandiau da newydd sydd ar y s卯n ar hyn o bryd.
Sylwadau ychwanegol?
Ond, noson dda iawn ar y cyfan - a'r tywydd braf yn fendith! Llongyfarchiadau i'r trefnwyr am 诺yl mor lwyddiannus unwaith eto.
|
|