大象传媒

Explore the 大象传媒
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
C2 ar Radio Cymru

大象传媒 Homepage
HAFAN Cymru

Chwaraeon
Radio Cymru
C2
Adolygu CDs
Adolygu Gigs
Amserlen
Cyflwynwyr
Cysylltiadau
Dewis Huw
Dewis Huw
Dewis Lisa
e-Gofnod
Galeri C2
G锚m C2
Gigs
骋飞别驳补尘别谤芒耻
Gwesteion
Labeli
Newyddion
Prynu ar y we
Sesiwn Acwstig
Sesiwn C2
厂迟辞谤茂补耻
Siart

Bitesize TGAU
大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

C2 ar Radio Cymru C2 ar Radio Cymru
Geraint Jarman
Y diweddaraf...

Cyflwyniad
Yn diferu o ddylanwadau aml ddiwylliannol Caerdydd Geraint Jarman o bosib yw'r cyfrannwr mwyaf i roc yn yr iaith Gymraeg, gyda chatalog di-guro o ganeuon aruthrol. Tad roc Cymru.

Cynnwys
Wedi ei eni ym Mangor, symudodd Geraint i Gaerdydd pan yn bedair, lle cafodd brofiad o ddiwylliannau amrywiol trigolion y Riverside yng Nghaerdydd gan wrando ar eu cerddoriaeth a'u hofferynau. Esblygodd ei ddiddordeb mewn cerddoriaeth a chyda Meic Stevens a Heather Jones ffurfiodd Bara Menyn yn nechrau'r saithdegau, oedd yn hwb allweddol i'r s卯n roc Gymraeg cynnar gyda chaneuon enwog megis Mynd i'r Bala ar y Cwch Banana.

Roedd hi'n 1976 pan ddaeth albwm gyntaf Geraint allan, ac ystyriwyd Gobaith Mawr y Ganrif fel cynnyrch artist oedd am wneud argraff sylweddol ar roc Cymraeg. Eto, anodd fyddai credu yr adeg hynny y byddai'n parhau i gyfansoddi a rhyddhau heb argoel ei fod am stopio ymhell i'r mileniwm newydd. Roedd y drac deitl yn diwn rocaidd hwyliog gwych, "I've Arrived" a Merched Caerdydd yn sbort aruthrol bendigedig, gyda Lawr yn y Ddinas yn rhoi arlliw galluog i'w ddylanwadau reggae cryf.

Yn '77 rhyddhaodd Tacsi i'r Tywyllwch, a wnaeth argraff yr un mor drawiadol, yn cynnwys traciau megis yr iasol Ambiwlans, y ffynci Dyn Oedd yn Hoffi Pornograffi a'r clasur Bourgeois Roc. Erbyn hyn roedd gigiau Jarman yn chwedlonol, a nosweithiau gwallgof yn rhannu llwyfan gyda'r Trwynau Coch, Edward H ac eraill yn arferol. Amhosibl fyddai anwybyddu cyfraniad Tich Gwilym, prif gitarydd y Cynganeddwyr, i'r llwyddiant a'r llewyrch, a byddai crescendo'r noson yn dueddol o orffen gyda'i fersiwn unigol o Hen Wlad Fy Nhadau.

Yn '78 gwelwyd dyfodiad yr albwm Hen Wlad Fy Nhadau, oedd os rywbeth yn curo ei ymgeision blaenorol gwych, cewri o ganeuon megis Ethiopia Newydd, Instant Pundits, Sgip ar D芒n, Merch Ty Cyngor a Methu Dal y Pwysa yn cyfrannu at un o albwms y ganrif heb os. Mewn llai na blwyddyn roedd albwm arall allan, Gwesty Cymru, a roedd y safon yr un mor eithriadol gyda caneuon aruthrol megis SOS yn Galw Gari Tryfan, Neb yn Deilwng, Byth yn Mynd i Redeg Bant a Gwesty Cymru yn mynnu'r glust.

Yn parhau 芒'r raddfa ffrwythlon daeth Fflamau'r Ddraig allan yn '80, uchafbwyntiau yn cynnwys yr enwog Rhywbeth Bach, y Cwn Hela iasol a'r dwys bendigedig Cae'r Saeson, a ni fedrir crybwyll hwnnw heb s么n am y gig Twrw Tanllyd cyntaf a gynhaliwyd yng Nghae'r Saeson yn '79 gyda Jarman yn codi'r to. Yn selio ei statws fel prif artist Cymru gwelwyd traciau arbennig megis y gorffwyll Crogi Llygoden, yr anthem hapus Diwrnod i'r Brenin a'r Patagonia epigol oddi ar Diwrnod i'r Brenin yn 81. Yn '83 rhyddhaodd Macsen oedd yn drac sain i ffilm Gareth Wyn Jones o'r un enw, oedd yn cynnwys Siglo ar y Siglen a Cwd, a daeth Enka yn '84 oedd yn brosiect ffilm arall ac yn ddechrau ar ddiddordeb Geraint yn y maes fideo, gyda thraciau gwych megis Nos Da Saunders a Cenhadon Casineb.

O hynny aeth ymlaen i weithio ar y gyfres arloesol a hanfodol Fideo 9 i Criw Byw am bum mlynedd, gan roi stop ar ei gatalog tan '92 pan recordiwyd Rhiniog ar label Ankst. Gyda swn gwahanol a hynod gyfeillgar roedd yn arallgyfeiriad sylweddol a welodd ganlyniadau ffantastig megis Kenny Dalglish, Hei Mr DJ, Llwyth Dyn Diog a mwy. Amhosib fyddai pasio heb roi sylw arbennig i'r emosiynol Strydoedd Cul Pontcanna a'r gwefreiddiol Tracsuit Gwyrdd oedd yn cyfrannu at albwm godidog.

Roedd y safon yr un mor lewyrchus yn Y Ceubal Y Crossbar a'r Quango, oedd yn taro tant gyda traciau gwych megis Rhedeg lawr y Tynal Tywyll, Animeiddio Goleudy Mewn Rhyfel, Anifail Brigitte Bardot, gyda Cerys Mathews yn cyfrannu llais cefndir, a'r melys Enillais Hen Gariad. Gyda dau albwm mor drawiadol ganddo ar ei newydd wedd doedd ganddo ddim mwy i'w brofi, ond gwelwyd yr albwm annisgwyl Eilydd Na Ddefnyddiwyd yn '98, oedd yn hannu mwy at reggae tywyll, a mewn gwirionedd nid oedd cweit yn cyrraedd uchelfannau Rhiniog a Ceubal, er fod rhaid nodi Asyn Eira ac yn enwedig Ti'n Gwybod Be Ddudodd Marley fel traciau penigamp.

Yn 2002 gafodd ei EP ddiweddara, M么rladron, groeso mawr hefyd. CD 5 trac, hawdd i wrando arni, oedd yn cynnwys y g芒n M么rladron - prosiect ar y cyd gyda meistri'r ail-gymysgu Llwybr Llaethog. Ac ar ddiwedd 2002 fe recordiodd Geraint Jarman a'r Cynganeddwyr sesiwn arbennig i raglen C2, Radio Cymru welodd Jarman yn arbrofi gyda synau latino De America ac yn mynd n么l i'w wreiddiau reggae. Dyma un o uchafbwyntiau cerddorol C2 yn bendant - hyfryd.

Daeth casgliad o ganeuon byw Jarman allan yn ddiweddar hefyd ar label - Jarman ar ei orau. A dyma rhywbeth i chi bori arno i orffen. Tra mae Robbie Williams a Stereophonics yn chwythu allan o stereos y Cymry Cymraeg mae'n bosib wrth gerdded heibio i glywed Geraint Jarman yn atseinio drwy strydoedd rastaffarian di-Gymraeg Caerdydd. Maent yn gwybod eu stwff.

Genre
Roc, reggae.

Aelodau
Geraint Jarman - llais
Phil Maynard - gitar acwstig a gitar drydan
Robar "Tich" Gwilym - gitar drydan
Steve Keely - drymiau
Neil White - gitar, llais
R. "Dodo" Wilding - drymiau
Bethan Meils - ffidil, fiola
Geraint Watkins - piano
Lincoln Carr - bass
Heather Jones - llais
Peredur ap Gwynedd - gitar
Lisa Jarman - llais
Pete Hurley - bas
Arran Ahmun - drymiau
Richard Dunn - allweddellau, piano
Les Morrison - gitar, (1992- yn unig)

Lincs perthnasol



Holl raglenni C2, ar gael i wrando eto unrhyw amser am 7 diwrnod.

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

Gwylia hwn!

Fideos a setiau byw o gigs gorau'r Steddfod!



Amserlen C2:
Wythnos y Cyflwynwyr

Cysylltiadau, artistiaid, bandiau...


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy