大象传媒

  1. 大象传媒 Cymru
  2. Teledu
  3. Deg Ucha'r 'Dolig

Deg Ucha'r 'Dolig

Deg Ucha'r 'Dolig

Martha, Jac a Sianco

Mae'r Nadolig yn amser o'r flwyddyn i fwynhau rhaglenni arbennig ar y teledu. Dros y blynyddoedd mae S4C wedi dangos amryw o glasuron yn ystod yr 糯yl.

Sioned Williams, adolygydd celfyddydau ar raglen Dewi Llwyd ar Radio Cymru, a cholofnydd teledu Barn sydd yn dewis ei deg rhaglen Gymraeg orau erioed.

1. Martha, Jac a Sianco (2008)
Er roedd hi'n ffilm braidd yn dywyll ar gyfer ei darlledu ar Ddydd Nadolig, dyma uchafbwynt gwylio'r Nadolig : Ffilm brydferth gyflawn Gymraeg o'r safon uchaf, 芒'i gwaith camera a chynllunio cain, a pherfformiadau rhagorol gan Sharon Morgan, Ifan Huw Dafydd a Geraint Lewis.

2. Nadolig Plentyn yng Nghymru (2008)
Roedd 2008 yn flwyddyn i'w chofio o ran arlwy'r Nadolig! Animeiddio dychmygus o glasur Dylan Thomas a llais melfedaidd Mathew Rhys yn creu campwaith.

3. Ryan a Ronnie (2009)
Er y bu ar daith trwy Gymru cyn ei harddangos dros y 'Dolig roedd yn werth Ryan a Ronnie gwylio'r ffilm aeddfed a phwerus hon eto er mwyn cael blas ar stori a chyfnod dau o ffigyrau mwyaf ein diwylliant poblogaidd drwy gyfrwng sgript ddisglair Meic Povey a pherfformiadau hynod Aled Pugh a Rhys ap Hywel.

4. Gadael Lenin (1993)
Ffilm ddigon ysgafn ei hysbryd oedd hefyd yn gosod cywair newydd. Cyfarwyddo di-ymdrech Endaf Emlyn yn rhoi i ni un o'n cipiau cyntaf ar ddawn Richard Harrington.

5. Ar y Tracs (2009)
Ffilm agos atoch chi a ddangosodd dawn ffres Catrin Dafydd i gyfleu stori drwy gyfrwng dwy iaith Cymru - ac un o ychydig ffilmiau gomedi lwyddiannus yr 糯yl.

6. Solomon a Gaenor (2000)
Er roedd nifer wedi ei gweld hi'n barod yn y sinema fe wnaethon ni gyd ei gwylio eto ar ddydd Nadolig er mwyn dathlu camp y ffilm dyner hon, a'i s锚r, Nia Roberts ac Ioan Gruffudd.

7. Gelert (2007)
Ffilm a hudodd y teulu cyfan, er eto braidd yn drist ei naws ar gyfer Dydd Nadolig. Roedd y plant yn enwedig wedi eu swyno a'u cyffwrdd gan rym yr animeiddio.

8. 40 Ucha Siart y Dywediadau (2009)
Cyfle i ail fyw rhai o berlau comedi Cymraeg, fu'n fodd i'n hatgoffa ni ein bod ni'n medru creu comedi gwirioneddol ddoniol, yn enwedig pan fo'r comedi yn deillio o droi'r Saesneg yn destun sbort.

9. T芒n ar y Comin (1994)
Yr orau o'r ddwy ffilm a seiliwyd ar waith T.Llew Jones a chyfle i glywed Edward Woodward yn siarad Cymraeg!

10. Pobl y Chyff Nadolig (1992)
Dathliad Nadolig o gyfraniad unigryw a bythol ddoniol y Franks a'u dychan.

Adolygiad gan Sioned Williams.

Hafanddalen

Hafanddalen

Hafan Cymru

Sut i osod hafanddalen 大象传媒 Cymru fel man cychwyn eich porydd gwe.

Y Celfyddydau

Llyfrau

Cylchgrawn

Archif dros 12 mlynedd o adolygiadau a straeon o fyd y theatr, llyfrau a ffilm.

Rhaglen Newyddion

Bethan Rhys Roberts

Newyddion

Gwyliwch y rhaglen ddiweddaraf o Newyddion 大象传媒 Cymru.

大象传媒 iD

Llywio drwy鈥檙 大象传媒

大象传媒 漏 2014 Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.