大象传媒


Explore the 大象传媒

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



大象传媒 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Beddau Beddau Cymry yn Israel
Erthygl gan Grahame Davies sydd newydd fod ar ymweliad ag Israel.


Gyda'r gwynt main a'r glaw yn chwipio i lawr, bron na allech chi ddychmygu mai rhywle yng Nghymru yw'r llechwedd arw hon, yn hytrach nag yn y Dwyrain Canol.

Serch hynny, buasai tywydd o'r fath yn gyfarwydd iawn i'r llu o Gymry a gafodd eu gorffwysfan olaf fan hyn, ym mynwent filwrol Brydeinig Mynydd Scopus, yn Nwyrain Jerwsalem.

Pererindod bersonol
Rhyw fath o bererindod bersonol oedd imi ddod fan hyn. Yn 2002, mi gyhoeddais lyfr yn sôn am berthynas y Cymry a'r Iddewon dro y canrifoedd.

Y porth sy'n arwain i'r fynwentWrth ei ymchwilio, un o'r digwyddiadau mwyaf arwyddocaol y deuthum ar ei draws oedd y cyfraniad sylweddol a wnaeth y Cymry at ymgyrch y Cyngrheiriaid i oresgyn Palesteina yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Roedd Prif Weinidog Prydain, David Lloyd George, yn gefnogwr cryf i'r ymgyrch ym Mhalesteina, er bod ei gadfridogion yn credu y byddai'r rhyfel yn cael ei ennill neu'i golli ar y ffrynt gorllewinol yn erbyn yr Almaen, nid yn y Dwyrain Canol.

Ond, wedi'r cyfan, y Cymro oedd yr arweinydd rhyfel, felly fe gafodd ei ddymuniad, ac fe gyfeiriodd adnoddau milwrol o Ffrainc a Gwlad Belg er mwyn atgyfnerthu'r fyddin Brydeinig yn yr Aifft, yn barod am y cyrch ar Balesteina.

David Lloyd-GeorgeRoedd gan Lloyd George agenda arall hefyd.
Yn gynnar yn 1917, mewn ymateb i apeliadau gan y Seionistiaid, fe awdurdododd ef y Datganiad Balfour, a gefnogodd amcan y Seionistiaid o greu cartref cenedlaethol i'r bobl Iddewig ym Mhalesteina.

Dywedodd wrth ei gynulleidfaoedd Iddewig fod ganddo gydymdeimlad naturiol gyda'r Iddewon, gan fod ei fagwraeth ymneilltuol Gymraeg wedi golygu ei fod yn fwy cyfarwydd â hanes a daearyddiaeth Israel na chyda hanes a daearyddiaeth ei wlad ei hun.

Gwybod y byddai croeso
Roedd yn gwybod y byddai'r Cymry yn croesawu goresgyniad y Wlad Sanctaidd yn fawr, ac yn croesawu hefyd cyfan y byddai'r goresgyniad yn ei olygu i'r Iddewon.

Ond fe safai'r Twrciaid rhyngddo ef a gwireddu'r addewid honno. Ac fel yr oedd ymgyrch drychinebus y Cyngrheiriaid yn erbyn y Twrciaid yng Ngalipoli yn 1915 wedi dangos, nid ar chwarae bach y byddai'r gelyn hwn yn ildio tir.

Yn wir, roedd y Cynghreiriaid wedi ceisio ymosod ar Balesteina ddwywaith o'r blaen yn ystod y rhyfel ac wedi cael eu gyrru yn ôl gyda cholledion trwm.

Serch hynny, gyda'r lluoedd atgyfnerthol a'r rheiny'n filwyr Cymreig ar orchymyn penodol Lloyd George a chyda chadfridog newydd, Edmund Allenby, fe ysgubodd y Cyngrheiriaid i mewn trwy Gaza ac i fyny i Balesteina.

Croesgad fodern
O ddarllen llythyrau ac erthyglau'r milwyr Cymreig a gymerodd ran yn yr ymgyrch hon roedd 40% o filwyr yr ymgyrch yn Gymry mae'n eglur bod llawer ohonynt wedi ystyried yr holl beth fel croesgad fodern, a'u bod yn cydymdeimlo'n fawr gyda'r ddelfryd Seionistaidd.

Ar Ragfyr 11, 1917, arweiniodd milwyr Cymreig yr orymdaith fuddugoliaethus i mewn i Jerwsalem drwy Borth Jaffa, digwyddiad a goffawyd wedi'r rhyfel gan yr artist Frank Brangwyn mewn llun sydd bellach i'w weld yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd.

Brwd fu croeso'r wasg Gymreig a gwleidyddion Cymru i'r fuddugoliaeth ac i'w oblygiadau ar gyfer Seionistiaeth.

Ychydig o ystyriaeth a roddwyd i'r modd y byddai hyn oll yn effeithio'r boblogaeth Arabaidd oedd wedi bod yn trigo ym Mhalesteina ers canrifoedd.

Miloedd o feddi
Ond bu pris ar addewid Lloyd George miloedd o feddi Prydeinig o Gaza i Jericho hyd at Jerusalem.

Roeddwn wedi darllen am yr ymgyrch hon wrth ymchwilio'r llyfr.



Un o'r beddau CymreigOnd profiad gwahanol yw gweld y beddi eu hunain rhes ar ôl rhes o ddynion o'r Royal Welch Fusiliers, y Welch Regiment, y South Wales Borderers, ynghyd ag unedau llai amlwg megis y Montgomeryshire Yeomanry.

O edrych ar y beddargraffau Cymraeg a Saesneg, mae'r agwedd groesgadol i'r ymgyrch yn dod yn amlwg. Dewisodd teulu'r Capten JHL Yorke, o'r Pembrokeshire Yeomanry, ei goffau drwy ddefnyddio'r geiriau a ddewisodd Geoffrey Chaucer i ddisgrifio croesgadwr o'r canol oesoedd: A very perfect gentle knight.

At y Beibl y trodd teulu'r Lifftenant J Morris o'r Glamorgan Yeomanry, gan ei ddisgrifio fel: Milwr Da i Iesu Grist.

Ac at farddoniaeth Ceiriog y trodd teulu'r Preifat David Owens o'r Royal Welch Fusiliers,: Gwell Marw'n Fachgen Dewr.

Cymen a phrydferth
Dros 80 mlynedd wedi'r rhyfel, mae'r fynwent yn dal i gael ei chadw'n gymen ac yn brydferth. Mae'n edrych dros y ddinas hon sy'n ganolbwynt i anghydfod byd-eang.

O safbwynt Cymru, gall y gwrthdaro yn Israel a Phalesteina ymddangos weithiau fel rhywbeth pell i ffwrdd. O'r herwydd, gall fod yn anodd i feddwl pa gyfran sydd gan Gymru ym mhroblemau anhydrin y rhanbarth.

Mae'n sicr yn bell i ffwrdd. Ond mae'n un mor sicr hefyd fod gan Gymru gyfran yn y sefyllfa. Rhoddodd y Cymry hyn eu bywydau mewn ymgyrch a newidiodd gydbwysedd gwleidyddol y Dwyrain Canol yn barhaol.
Wrth gadw addewid Lloyd George, fe ysgrifennodd y rhain enw Cymru yn annileadwy ar hanes y wlad gythryblus hon.

Efallai bod y beddau hyn dair mil o filltiroedd o Gymru ond wedi i mi eu gweld, mae'n amheus gen i a fydd modd imi feddwl eto mai anghydfod pellennig yw'r trafferthion yn Israel a Phalesteina.





dwyrain canol

> Dubai
> Irac
> Israel

Syria - y targed nesaf?

Syria a Libanus - cwestiwn ac ateb

Iran - dyddiau dyrys



About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy