大象传媒


Explore the 大象传媒

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



大象传媒 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Iolo ap Dafydd Bywyd ar Fflat Huw Puw o'r Panama
Dydi Iolo ap Dafydd ddim yn ei seithfed ne yng nghynhadledd G8

Dydd Iau, Gorffennaf 19, 2000

Lletya ar long

Llong yr Azur wedi ei hangori yn y bae yn Genoa ydy nghartref i am y pum niwrnod nesaf.

Na! Na! Cyn ichi fy myddaru i gyda "Pam ddiawl ti'n cwyno" mae'r llong arbennig hon yn bell o fod yn newydd, ac mae wedi ei chofrestru ym Mhanama.

Hmm, da chi'n gwbyod pa mor amheus ydy hynny?! Ond gadewch imi ddechrau yn y dechrau ar y daith hynod i lan môr Liguria .

Pump y bore!


Plas y gynhadleddMae'r wawr wedi torri a chymylau mawr duon yn bygwth glaw, a mwy o law.

A dwi newydd sylweddoli mod i wedi gwneud cythgam o gamgymeriad wrth dorri ar fy ngwyliau er mwyn teithio i Ogledd yr Eidal ynghanol gwres a phrysurdeb canol haf i ohebu yn Genoa ar gynhadledd wyth o wledydd mwyaf a chyfoethoca'r byd.

Croeso i fyd yr G8. Y nhw a arferai fod yn G7! Ac sydd weithiau yn G20!

Peidiwch a phoeni os nad ydio'n glir rwan mi fydd jargon y dyddiau nesaf yn berwi'r brêns neu mi ddaw'r cwbl mor glir a chawl pys slwts erbyn i arweinwyr Siapan, Rwsia, America, Canada a'r giwed Ewropeaidd o Brydain, Ffrainc, yr Eidal a'r Almaen drafod stâd y byd dros dridiau chwyslyd ar lan Môr mawr y Canoldir.

Gadael Gatwick

Mi roedd y lle'n berwi. Fel syrcas am ddim yn Rwsia. I ble ma pawb yn mynd? A pham?

Yn barod mi roedd yn edifar gen i fforffedu'r gwyliau prin hir-ddisgwyliedig yng Nghymru - hyd yn oed ynghanol glaw Cymru - am ragor o ruthro dramor a dyddiau hir yn parablu am bolitics a'i effaith arno ni gyd!

I be?
Yn enwedig os ydy pawb fel fi yn synfyfyrio am wyliau a diogi tra'n gwylio tonnau'r môr Celtaidd yn llyfu bodiau'n nhraed a glasiad arall o Barolo yn barelu lawr y lôn goch?

Hedfan ar BA am y de wedi hanner awr o "delay", wedyn.

Ymhen hanner awr o hedfan llais mwyn, diwylliedig, y capten yn ein hannog i edrych allan i'r chwith cyn ebychu'r lemon, bod gormod o gymylau i weld Paris yn iawn!

Trio cysgu.

Amhosibl mewn awyren yn llawn newyddiadurwyr a'u cydweithwyr. Lleisiau uchel, bostfawr bron, wedi arfer â chael eu clywed, yn cyfarch a chyfarth ar bawb o fewn clyw.

Yna daeth yr hwyl. Hwyl i gadarnhau mod i wedi gwneud camgymeriad ffol i ddod i'r gynhadledd G8 ma.

Roedd hi'n glawio yn Genoa.

Glawio! A finnau wedi gadael fy nghôt yng Nghaerdydd. Ar ochr y lanfa - ar lan y bae - roedd peiriannau tanio taflegrau daear i awyr!!

Rhesi ohonyn nhw fel rhyw bianos sgwâr gwyrdd ar hyd ochr y strip concrid lle glaniodd yr awyren. Wedi eu hanelu dros y bae at y ddinas tu hwnt.

Ydyn nhw'n disgwyl rhyfel neu beth?

Paranoid am brotestwyr



protestwyrYn y lolfa gyrraedd roedd Cytundeb Shenegen wedi ei ohirio, ei anghofio, ei atal, beth bynnag a ddywedir gan fod yr Eidalwyr yn gwbl paranoid fod protestwyr lu - tua chan mil yn eu tyb nhw - ar eu ffordd i darfu ar heddwch y gynhadledd a gwneud llanast o Genoa fel a wnaeth rhai ohonyn nhw yn Gothenbwrg y mis diwethaf.

Yn ôl Shenegen gall pobloedd yr Undeb Ewropeaidd a rhai gwledydd eraill Ewrop fynd a dod o fewn y cyfandir heb orfod cael visa a phrin ddangos pasport.

Ddim yma. O'r herwydd mi gymerodd oriau i adael y maes awyr, ac awr arall i gael miliynau o liras o'r banc i dalu'r driefar tacsi.

Ond mi roedd yr hwyl pennaf i ddod. Fe adawodd y tacsi fi a chyfaill o 大象传媒 Llundain - yn bell o ble roedden ni fod - wrth giât fawr ddur gyda rhesi o heddlu arfog, milwyr a phob un wan jac a oedd mewn iwnifform, o'r boi llnau toilets i beilot yr hofrennydd a oedd yn gwgu arnon ni uwchben ac yn cario gwn.

Sawl gwn!

Cwrdd a phennaeth swyddfa 大象传媒 Brwsel wedyn a oedd wedi bachu beic i gwrdd a ni ger y fynedfa i roi pas gyda'n lluniau ni arno, cyn cychwyn cerdded rownd dociau Genoa at ein lle cysgu!

Gwên blastig

Erbyn hyn roedd y wên blastig ar fy wyneb mor lastig a chnoi gwm y wraig. (Mi all hi gnoi gwm - yr un gwm - drwy'r dydd, a'i gadw at y diwrnod wedyn!!)

Ac wele'r Azur.
Cyfyfl arall - tsiecio bagiau, chwaneg o archwilio, ateb cwestiynau'r carabinieri cyn cael caniatâd i fyrddio'r "hotel".
Gwên wrth ddesg y dderbynfa gan hogan o Rwsia. "Croeso i'r llong," meddai mewn Saesneg.

Ddwywaith, gan ei bod mor falch o'n gweld ni siwr o fod.

Tybed fydd hi mor gwrtais ar ôl cael haid o hacs diamynedd yn cecru ar ddiwedd y penwythnos?



Ac wele'r caban. Llong heb na ffôn, llinell ISDN ar gyfer darlledu, na theledu a radio i glywed be sy'n mynd ymlaen yng ngweddill y byd!

Llong bleser fyddai'r enw caredig ar hon.

I fod i gario ymwelwyr o amgylch Dwyrain Môr y Canoldir. Pobl ariannog Moldofa, Georgia ac Aserbaijan oedd y cwsmeriaid olaf.

Yn ôl DikDik, (dydw i ddim yn cellwair!!) y gwas caban o Indonesia sydd wedi addunedu edrych ar ein holau, mae hi'n llong neis.

Ydy, yn neis iawn!

Wedi ei ffitio yn y 60au rhywbryd yn rhywle dybiwn i.

Ta waeth, er nad oes lle i swingio bag molchi yn y molchfa, na ffenest na modd cael y ffôn symudol i weithio - mae na wely glân.

A diolch amdano, achos ar hyn o bryd, gyda batri y cyfrifiadur bach ma'n dechrau pylu a dim un peth yn gweithio yn Genoa lle mae miloedd o ohebwyr wedi ymgartrefu yn barod, y syniad callaf ydy anelu am y gwely!!

Y drafferth ydy fod yn rhaid imi weithio yma hefyd ..




ewrop

Yr Eidal
Gwyliau newid bywyd!

Dathlu gwyllt wedi i Rufain drechu'r gelyn

Brwydr fawr milwyr Rhufain

Bywyd ar Fflat Huw Puw o'r Panama

Yr Eidal drwy'r lens

Helynt Hywel efo pizza a moped!




About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy