|  |
 Gwario deng miliwn ar y dyfodol
Bydd yr Urdd yn gwario 拢10m ar wella ei ddarpariaeth i aelodau.
Mae hyn yn golygu gwelliannau yn nau wersyll y mudiad yng Nglan Llyn a Llangrannog gyda 300 o welyau en suite yn Llangrannog a chanolfan dreftadaeth ar y fferm yno.
"Dydi'r Urdd erioed wedi gweld cymaint o fuddsoddi a hyn," meddai Jim O'Rourke, Cyfarwyddwr y mudiad, fore Llun ar faes yr Eisteddfod.
Er mwyn gwneud y gwaith mae'r Urdd wedi codi morgais o 拢1.9m gyda Chymdeithas Adeiladu'r Principality ac wedi gael gwerth 拢4m o grantiau a defnyddio peth o'i arian wrth gefn ei hun.
Bydd y gwario yn y gwersylloedd yn 拢6m i gyd a bydd gwario yng Nfghanolfan y Milieniwm yng Nghaerdydd hefyd lle bydd Eisteddfod yr Urdd yn cael ei chynnal bob pedair blynedd o 2004 ymlaen.
"O ganlyniad, bydd canolfannau preswyl yr Urdd gyda'r ychwanegiad o ganolfan breswyl newydd sbon o fewn Canolfan Mileniwm Cymru ym Mae Caerdydd gyda'r canolfannau gorau yn y byd a bydd y datblygiadau a dydd yn costio 拢10m yn galluogi'r Urdd i ddarparu i dros 50,000 o blant a phobl ifainc yn flynyddol erbyn 2005 a chreu 50 o swyddi newydd dros y ddwy flynedd nesaf," meddai'r Mudiad wrth gyhoeddi manylion am y cynllun.
Disgrifiodd Jim O'Rourke y trefniant gyda'r Principality fel "y bartneriaeth go iawen gyntaf sy'n mynd a ni ymlaen i'r dyfodol gweddol hir."
|
|