|  |
 Breichiau agored ym M么n
Darluniwyd y ddwy bont dros Afon Menai fel breichiau agored yn ymestyn i groesawu pobl i Eisteddfod yr Urdd ar Ynys M么n mewn cyflwyniad gan blant yr Ynys.
Yr oedd 110 o blant a phobl ifanc wedi teithio'r holl ffordd o F么n i Brifwyl Margan i gadarnhau'r croeso hwnnw ac i wahodd Cymru gyfan i Brifwyl yr Urdd 2004 ar faes Cymdeithas amaethyddol Mona.
Cyfansoddwyd cerdd ar gyfer yr achlysur gan Mei Mac a 15 o ddisgyblion o ysgolion uwchradd y sir ac un o'r disgyblion hynny a gynigiodd y ddelwedd o'r ddwy bont fel dwy fraich agored sy'n gychwyn i'r gerdd.
Mae dwy fraich dros donnau y Fenai Mae ynys y Medra'n eich galw dros Gymru i gyd, Mae Mam eto'n galw, yn galw gan annog ei phlantos I ddod yn eu heidiau i ddangos eu doniau i'r byd.
Cyfansoddwyd cerddoriaeth i gydfynd a'r gerdd, sy'n cael ei chyhoeddi'n gyflawn yn y rhestr testunau, gan gyfansoddwr cyfoes amlycaf yr ynys, Gareth Glyn cerddoriaeth sy'n cychwyn gyda seiniau celtaidd gan gyrraedd penllanw o gerddoriaeth fodern yn amrywio o jazz i ddawns.
I berfformio'r gwaith ar lwyfan Margam roedd band jazz M么n dan arweiniad Gwyn Evans, aelodau o Theatr Ieunenctid M么n dan arweiniad Nest Llywelyn Jones.
"Y syniad yw fod y gerddoriaeth yn symud yn raddol o'r hynafol i'r cyfoes ac felly roedd yn rhaid i'r alaw fod yn addas ar gyfer pob un arddull," meddai Gareth Glyn.
|
|