|  |
 Pheena - wrth eu bodd bod yn fyw
Cymrodd Pheena seibiant o recordio eu EP newydd er mwyn dod i berfformio yn Eisteddfod yr Urdd, ym mhabell Radio Cymru ddydd Mercher. Mae chwarae'n fyw yn beth pwysig iddyn nhw.
"Mae llawer o grwpiau yng Nghymru sy ddim yn chwarae'n fyw ond rydyn ni yn bob tro", meddai Ceri.
Mae'r grwp yn bwriadu rhyddhau eu ep newydd - sydd heb deitl eto - ym mis Gorffennaf.
Bydd yn ddwyieithog ac mi fyddant yn mynd ar daith o gwmpas ysgolion Cymru yn ei hyrwyddo cyn hir.
Ac er bod eu EP diwethaf, sy'n dwyn eu henw eu hunan, yn cael ei disgrifio fel "pop gyda ychydig o ffwnc", mae'n debyg y bydd iddynt edrychiad newydd erbyn yr EP nesaf:
 "Mi fydd ganddo ni image newydd...a bydd y gerddoriaeth yn cynnwys mwy o roc," meddai Sara am yr EP newydd, sy'n cael ei recordio ar hyn o bryd yn y Rhondda.
Mi fydd y grwp wedi bod gyda'i gilydd ers bron i flwyddyn erbyn iddi gael ei rhyddhau.
Daeth y tair at ei gilydd mewn clyweliad n么l ym mis Awst, er bod Sara, 19 oed o Sir F么n a Ceri, 20 oed o Llandwrog wedi bod yng ngholeg perfformio Bangor gyda'i gilydd. Fe gwrddodd y ddwy 芒 Tesni, sy'n 18 oed o Fae Colwyn yn y clyweliad.
Mae Tesni, sydd wedi dysgu Cymraeg, ar hyn o bryd yn dal yn y coleg yn astudio, ac mi fydd yn gorffen yno yn yr haf. Bydd gan y grwp fwy o amser i berfformio wedyn ac maent hefyd yn mynd ar daith gyda Planed Plant a radio Cymru cyn hir, ac yn edrych ymlaen.
Mae'r tair ohonynt yn mwynhau'r Eisteddfod a Sara wedi bod yn cystadlu er pan oedd yn chwech oed - ar yr unawd fel arfer. Cafodd drydydd ar y llwyfan sawl gwaith a gwnaeth Tesni hefyd ei si芒r o adrodd.
Mae'r gerddoriaeth maent yn gwrando arno yn amlwg yn dylanwadu ar eu cerddoriaeth eu hunan gan eu bod i gyd yn ffans o Meinir Gwilym a Christina Agulera ac Avril Lavigne. Maent yn llawn egni wrth berfformio ac yn amlwg yn mwynhau y cyfle yn fawr.
|
|