|  |
 Rhydian - o'r diwedd
Mae'n wyneb cyfarwydd i ni i gyd, ar ein sgr卯n teledu ar Blaned Plant ac yn canu; yn y gorffennol yn rhan o'r grwp Mega a nawr ar ei ben ei hunan.
Dros y ddwy flynedd ddiwethaf mae Rhydian, yn wreiddiol o Aberd芒r, wedi datblygu i fod yn un o s锚r mwyaf adnabyddus Cymru.
Ond beth yn union sy'n denu pobl ato fel cerddor?
Lowri Johnston fu'n siarad ag ef ar faes Eisteddfod yr Urdd.
Yn sicr, mae'r amrywiaeth o gerddoriaeth y mae Rhydian yn ei chwarae yn bwysig o ran denu cymaint o gynulleidfa 芒 phosib:
"Mae fy albwm newydd, yn cynnwys sawl math o gerddoriaeth ffwnc, roc, pop a cwpwl o faledi", meddai am ei albwm unigol cyntaf, O'r Diwedd a fydd yn cael ei ryddhau yn ystod wythnos Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn.
Mae'n cynnwys deg c芒n, ac mae ei ysbrydoliaethau yn amrywio o fandiau fel y Super Furry Animals, Badly Drawn Boy i Justin Timberlake a Craig David.
Yn sicr, mae Rhydian i'w weld yn mwynhau yn fawr wrth berfformio yn unigol: "Fe wnes i fwynhau yn fawr pan o'n i gyda Mega a byddai'n anodd iawn dewis pa un dwi'n fwynhau fwyaf ar fy mhen fy hun neu mewn grwp. Ond, dwi'n cael mwy o gyfle i roi blas cerddoriaeth fy hunan i'r caneuon wrth ganu'n sengl."
Yn anffodus, does gan Rhydian ddim cynlluniau i fynd ar daith ar hyn o bryd, ond fe fydd yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn canu, fel yr oedd ddydd Llun ym mhabell Radio Cymru ar faes yr Urdd.
Ond, yn wahanol i'r arfer, erbyn y Genedlaethol mae'n gobeithio y bydd ganddo grwp i berfformio gydag e.
Felly, efallai nad yw'n ddim byd gwreiddiol ond, yn sicr, mae'n plesio. Gwyliwch allan amdano yn y dyfodol, gan mai dim ond y dechrau yw hyn yn ei yrfa fel canwr unigol.
Am fwy o wybodaeth ewch i : www.rhydian.net
|
|