 Addo dal i deithio
Er cymaint y canmol ar faes yr yr Eisteddfod ar Barc Margam nid yw'r Urdd yn ystyuried ei wneud yn gartref parhaol i'r Wyl.
Ac ar gychwyn yr Eisteddfod cafwyd addewid arall y bydd yn parhau yn Wyl deithiol.
Pan ofynnwyd i Si芒n Eirian Cyfarwyddwr y Eisteddfod a'r Celfyddydau gyda'r Urdd, mewn cynhadledd i'r wasg, a oedd Parc Margam dan ystyriaeth i fod yn un o safleoedd parhaol y Mudiad ar gyfer yr Eisteddfod. Dywedodd: "Dydi hynny ddim wedi cael ei ystyried."
Eglurodd mai nod yr Urdd yw dal i i fod eisiau teithio o amgylch Cymru "gydag elfen o ail-ymweld".
Ychwanegodd pnnaeth yr Urdd, Jim O'Rourke, fod y cynllun ar gyfer y deng mlynedd nesaf mewn llaw yn barod gyda'r Eisteddfod yn ymweld 芒 Chanolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd bob pedair blynedd.
"Ond does dim cynlluniau mwy na hynny," meddai.
|
|