|
|
大象传媒 Homepage Cymru'r Byd | |||||||||||
禄 | |||||||||||
| |||||||||||
Ymateb Cymorth Wedi mwynhau'r ddalen hon? Anfonwch hyn at gyfaill! 听 |
StraeonGwell lle i Dlws y CerddorStatws newydd i brif gerddor yr Urdd
Bydd seremoni Tlws y Cerddor yn cael gwell lle yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd y flwyddyn nesaf pryd y bydd yn cael ei llwyfannu yr un adeg o'r dydd 芒'r prif seremon茂au eraill am ddau o'r gloch.
Dros y blynyddoedd bu'r seremoni hon ar y llwyfan nos Wener yr Eisteddfod. Ond er mwyn codi statws y cerddor bydd yn rhaid lladd prif seremoni arall. "Mae tlws y cerddor yn cael ei feirniadu ar hyn o bryd nos Wener, sydd ddim yn rhoi digon o statws iddo - felly fe fydd y seremoni hon yn awr yn cael ei chynnal yr adeg y mae Tlws y Fedal Lenyddiaeth yn cael ei chynnal yn awr" meddai Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr yr Urdd. Coron yn unig Ond ychwanegodd nad yw hynny'n golygu y bydd sgrifenwyr rhyddiaith ar eu colled. "Yr ydym yn cynnig y goron am dri darn o waith llenyddol mewn ffurfiau gwahanol ac mae'r Fedal Ryddiaith yn cael ei rhoi am gasgliad ryddiaith a beth sydd wedi bod yn digwydd yw fod casgliadau hynod o debyg yn myd i'r Fedal ac i'r Goron ac mae fel pe byddai rhyddiaith wedi bod yn cael dwy wobr - felly o hyn ymlaen fydd rhyddiaith ddim ond yn cael un brif wobr - sef y Goron," meddai. Dywedodd nad yw wedi derbyn cwynion am y penderfyniad hwn. "Mae'r rhestr testunau wedi bod allan ers rhyw fis a dydw i ddim wedi cael unrhyw gwynion," meddai. Cysylltiadau
Dyw'r 大象传媒 ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol |
About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy 听 |