|
|
大象传媒 Homepage Cymru'r Byd | |||||||||||
禄 | |||||||||||
| |||||||||||
Ymateb Cymorth Wedi mwynhau'r ddalen hon? Anfonwch hyn at gyfaill! 听 |
StraeonCoroni RhiannonDamwain beic yn achub y dydd
Yn gywir fel y darogan, Rhiannon a enillodd goron yr Eisteddfod heddiw!
A hynny'n ychwanegu at gysylltiad yr enw 芒'r gystadleuaeth hon. Cliciwch Ond yr oedd diolch y Rhiannon bresennol - Rhiannon Marks - iddi lwyddo i gystadlu o gwbl i ddamwain beic a gafodd y noson cyn dyddiad cau y gystadleuaeth. Prin o ysgrif A hithau yn brin o ysgrif ar gyfer cystadlu dywedodd i syniad ddod iddi yn sgil damwain beic yn Rhydychen lle mae'n fyfyrwraig. "Dod yn 么l oedd teitl y gystadleuaeth a dod yn 么l o swper yn y coleg oeddwn i - ac mae yna draddodiade digon rhyfedd i'w cael yma - rydych chi'n cael gweddi yn Lladin a phawb yn eu gowns ond wrth ddod n么l roeddwn i yn y stryd yma yn llawn pobl o bob math o wledydd dros y byd a meddwl, wel falle nad yw'r traddodiadau yn y coleg ddim mor ryfedd wedi'r cyfan a phwy sydd i ddweud beth sy'n rhyfedd?" Ac yn hel y meddyliau hyn oedd hi pan syrthiodd oddi ar ei beic a hynny ddiwrnod cyn y dyddiad cau. "Ac roedd angen ysgrif arnaf i," meddai. "Fe ebostiais i hi at mam ac fe yrrodd hi'r gwaith i swyddfa'r Urdd yn Aberystwyth imi," meddai. Yn y gystadleuaeth gofynnwyd am ysgrif, stori fer a chyfres o lythyrau. "Stori fer oedd fy un i, am griw o fenywod sydd yn cyfarfod yn y cyfrin i farddoni ond nad yw traddodiad barddol gwrywaidd Cymru yn gwybod amdanyn nhw. Ond maen nhw'n dysgu i gynganeddu yn y cyfrin," meddai. "Mae hi'n rhyw gymdeithas gudd sy'n cyfarfod i gynganeddu - efallai mod i wedi bod yn darllen gormod o Dan Brown a'r syniad o gymdeithasau cudd yma!" ychwanegodd. Dywedodd iddi gael y syniad o gerdd gan Menna Elfyn yn dyfalu tybed ai merch o'r enw Ann sydd yn yr Anhysbys a welir dan rai cerddi a gyhoeddir! "Meddwl oeddwn i efallai bod rhywbeth yn hyn a bod menywod wedi bod yn barddoni dros y blynyddoedd ond nad ydym ni wedi clywed amdanyn nhw," meddai. Yr oedd y gyfres o lythyrau a sgrifennodd yn rhai oddi wrth Forwyn Llyn y Fan Fach at yr ysgolhaig Celtaidd Syr John Rhys. "Ddarllenais ei fod e 芒 diddordeb yn ei hanes hi ac fe'i dychmyges i hi yn sgrifennu ato," meddai. 'Fi fy hun ar bapur' Dywedodd ei bod wrth ei bodd yn sgrifennu ac enillodd yn barod y gadair yn eisteddfod ei hysgol, Ysgol Pantycelyn, Llanymddyfri, a dod yn ail ac yn drydydd am goron yr Urdd y ddau dro arall y bu iddi gystadlu. Am ei gwaith dywedodd: "Fe ddwedodd Dafydd Rowlands - yr ydw i yn edmygydd mawr o'i waith - mai'r hyn yw ysgrif yw 'Ti dy hunan mewn geiriau ar bapur' ac rwy'n credu mai dyna yw fy llenyddiaeth i: yr hyn rydw i'n mwynhau ei sgrifennu; a gobeithio fod pobl eraill yn mwynhau ei ddarllen," meddai. Lle'n byd gwell Ar 么l ennill y goron yn ei bro ei hun dywedodd: "Allwn i ddim fod wedi ennill mewn lle gwell - a gweld cymaint o bobl oeddwn i'n adnabod yn y gynulleidfa. "Roeddwn i wedi bod yn cuddio oddi wrthyn nhw drwy'r bore." Am y 'Rhiannonyddiaeth' a berthynai i'r gystadleuaeth dywedodd nad oedd yn ymwybodol o gwbl ohono nes tynnwyd sylw ato yn ystod seremoni'r coroni: "Cyd-ddigwyddiad rhyfedd," meddai. Cysylltiadau
Dyw'r 大象传媒 ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol |
About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy 听 |