|
|
![]() | ![]() 大象传媒 Homepage Cymru'r Byd | ![]() | |||||||||
![]() | |||||||||||
禄 | ![]() | ||||||||||
![]() |
| ![]() | |||||||||
![]() | Ymateb Cymorth Wedi mwynhau'r ddalen hon? Anfonwch hyn at gyfaill! 听 | ![]() |
Straeon![]() Mwynhau'r sioe blantPlant ysgolion cynradd yn disgleirio mewn sioe lwyfan. Pafiliwn llawn dop o famau, tadau, brodyr a chwiorydd balch iawn ar ail noson perfformiad y disgyblion ysgolion cynradd yn y sioe O Bren Braf. A finnau yn eu canol yn disgwyl sioe liwgar ac egn茂ol iawn gan blant Shir G芒r. Roedd hi'n braf gweld y llwyfan yn llawn plant wedi eu gwisgo'n lliwgar yn agor y sioe gyda'r g芒n 'O Bren Braf.' Gosodwyd gefndir y stori yn syth ei bod hi'n ddechrau gwyliau haf a'r plant yn edrych ymlaen at wythnosau o ryddid a chael mwynhau gyda'u ffrindiau. Mae'r stori O Bren Braf, a sgriptiwyd gan Elinor Wyn Reynolds, yn gwyrdroi o gwmpas coeden hud. Stori ddigon syml ydyw, gyda gwers i'w dysgu yn y diwedd.
颁锚蝉测蝉 Yna daw'r criw o ferched gan ddarganfod yr un goeden. Ddim yn credu mewn ffantasi ac edrych yn 么l i'r gorffennol, mae'r merched yn gweld y llecyn yn le delfrydol i "iste i siarad," "dod 芒 chlystogau i fod yn gyfforddus" i gael defnyddio eu ff么nau symudol a gwrando ar Lilly Allen ar eu iPods. Yn amlwg felly, fel sy'n digwydd rhwng gangiau o ferched a bechgyn ifanc - mae na wrthdaro rhwng y ddau griw. Teimlais er mor arbennig oedd actio'r plant, pob un o'r prif gymeriadau yn geirio'n glir, roedd na ormod o ddeialog ar brydiau, a'r sgript yn gallu bod yn chwithig, er enghraifft, "ma ishe i chi ddeffro a gwynto'r coffi." Dw i'n amau y byddai plentyn yn defnyddio ymadrodd o'r fath. Er mi roedd na ymdrech deg i gynnwys geirfa plant heddiw ar brydiau eraill. O ystyried mai sioe blant oedd hon, bysai wedi bod yn braf i gael llawer mwy o ganu a dawnsio - yn bennaf er mwyn rhoi mwy o gyfle i blant y corws gael dod i'r llwyfan i fwynhau perfformio. Ond hefyd er mwyn y gynulleidfa - weithiau roedd rhywun yn diflasu ar y deialog hir ac yn ysu i weld mwy o symud. Roedd y caneuon yn swynol a rhai'n gofiadwy hefyd, byddai wedi bod yn braf clywed mwy o gerddoriaeth Euros Rhys Evans. Roedd y coreograffi yn wan ac yn ddi-fflach ar brydiau. Er bod y plant yn rhoi o'u holl egni i'r dawnsio, doedd dim llawer o 么l dychymyg yn y creu.
Hiwmor
Roedd y diweddglo yn arbennig - llond llwyfan unwaith eto a ch芒n gofiadwy. Y plant yn amlwg yn mwynhau'r profiad yn fawr a dyna mae'n si诺r oedd prif nod y sioe. Tipyn o gamp mi dybia i, yw cynhyrchu sioe lwyfan o safon uchel gyda bron i ddau gant o blant o dan un ar ddeg oed, a rhaid canmol pob un o'r t卯m cynhyrchu am wneud hynny. Wythnosau o ymarferion caled yn gweld pinacl ar lwyfan yr Urdd a llawer o ddisgyblion o ysgolion bach gwledig Shir G芒r yn cael cyfle na fydden nhw'n breuddwydio ei gael heblaw am yr Eisteddfod hon. Gwych o beth yw hynny. Rwy'n si诺r y gwelwn ni lawer o'r wynebau hyn ar lwyfannau'r Urdd a thu hwnt yn y dyfodol a chware teg iddyn nhw wir. Da iawn blant Sir G芒r! Cysylltiadau
Dyw'r 大象传媒 ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol |
![]() | ![]() About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy 听 |