|
|
大象传媒 Homepage Cymru'r Byd | |||||||||||
禄 | |||||||||||
| |||||||||||
Ymateb Cymorth Wedi mwynhau'r ddalen hon? Anfonwch hyn at gyfaill! 听 |
StraeonLlywydd dydd IauFflur Wyn - cystadlu ers yn chwech!
Dydd Iau
Fflur Wyn
Mae'r gantores glasurol Fflur Wyn yn wyneb cyfarwydd ar lwyfan Eisteddfod yr Urdd a ledled y byd erbyn hyn.
Cafodd ei haddysg yn Ysgol y Gwynfryn Pontyates, Ysgol Gynradd y Glyn Brynaman, ac Ysgol Gyfun Ystalyfera cyn mynd i'r Royal Academy of Music yn Llundain rhwng 1999 a 2006, gan ennill gradd dosbarth cyntaf mewn cerddoriaeth ac yna DipRAM fel 么l-radd. Mae hi wedi canu'n broffesiynol yn The Magic Flute gan Mozart gydag Opera North, Le Nozze di Figaro gan Mozart gyda Garsington Opera a Jane Eyre gan Michael Berkeley gyda Music Theatre Wales. Mae hi wedi ymddangos yn y Royal Albert Hall, St John's Smith Square, Palas Buckingham ac mewn cyngherddau yn Yr Almaen, America, Ffrainc a Sbaen. Mae hi wedi cydweithio gydag arbenigwyr fel Colin Davis, Charles Mackerras, Paul McCrees a Richard Hickok, a chyda nifer o gantorion- a cherddorfeydd - o fri, fel Bryn Terfel, Neal Davies, Mark Padmore, Jennifer Larmore, Royal Philharmonic Orchestra, Bournemouth Symphony Orchestra, Gabrielli Consort, a Cherddorfa Cymreig y 大象传媒. Ar y gweill Mae ganddi nifer o bethau ar y gweill, gan gynnwys cyngherddau yn Chaise Dieu ac Utrecht, cyn dychwelyd i Opera North i chwarae rhan Clerida yn yr opera Croesus gan Kaiser. Yn syth wedi'r eisteddfod bydd Fflur yn chwarae rhan Gretel yn Hansel & Gretel gan Humperdink, ac yna yn haf 2008 bydd yn chwarae rhan Pamina yn The Magic Flute gan Mozart gyda chwmni opera Holland Park yn Llundain gyda'r actor enwog Simon Callow yn cyfarwyddo. Y mae hithau yn un a fu'n cystadlu ar lwyfan yr Urdd. 'Mi fuais i'n cystadlu yn Eisteddfodau'r Urdd ers yn chwech oed - a chael fy llwyddiant cyntaf 13 ar yr unawd merched 12-15 yn Eisteddfod yr Urdd Bro'r Preseli, 1995," meddai. "B没m yn ddigon ffodus i ennill saith neu wyth tro dros y blynyddoedd ar yr unawd, yr alaw werin, neu gerdd dant a dwi'n si诺r fod y profiad yma, a'r profiad o golli sawl tro hefyd, wedi bod o fudd mawr i mi wrth i mi fynd i'r byd proffesiynol," meddai. Talent a brwdfrydedd Dywedodd ei bod yn hynod falch i'r Eisteddfod ddod i Sir Gaerfyrddin. "Mae'r sir yma yn hynod gyfoethog o ran talent a brwdfrydedd ac hefyd yn llawn prydferthwch natur. Mae'n ardal hynod o Gymreig, ac mae'r bobl i gyd yn groesawgar iawn. "Dwi'n si诺r y bydd hon yn Eisteddfod i'w chofio. Pan ofynnwyd i mi fod yn Llywydd y Dydd yn yr Eisteddfod hon, mi deimlais anrhydedd mawr. Mae'r Urdd wedi rhoi gymaint i mi dros y blynyddoedd ac mi fydd yn bleser cymryd y cyfle i roi rhywfaint yn 么l i'r Eisteddfod ac i'r ardal. "Mae'r Urdd yn arbennig am gefnogi ei hieuenctid, ac rwyf innau'n hynod o werthfawrogol am yr holl gyfleoedd a'r gefnogaeth a gefais dros y blynyddoedd," meddai. Cysylltiadau
Dyw'r 大象传媒 ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol |
About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy 听 |