|
|
大象传媒 Homepage Cymru'r Byd | |||||||||||
禄 | |||||||||||
| |||||||||||
Ymateb Cymorth Wedi mwynhau'r ddalen hon? Anfonwch hyn at gyfaill! 听 |
StraeonLlywydd - o'r diwedd!'Llywydd y dydd' cyntaf ar y maes heddiw
Gyda phob un o lywyddion y dydd wedi methu a dod i'r Eisteddfod hyd yn hyn mae'r Urdd yn hyderus y bydd yna lywydd yn bresennol bob dydd am weddill yr wythnos.
A chafwyd dechrau da heddiw gyda[r gantores Fflur Wyn yn crwydro'r maes. Hi oedd llywydd y dydd cyntaf i fod yn bresennol. Ddoe, dydd Mawrth, nid yn unig methodd Dwayne Peel a bod yno ond mewn cynhadledd i'r wasg methwyd 芒 chwarae neges fideo yr oedd wedi ei hanfon . Ef oedd y trydydd o dri i fethu 芒 dod i'r Eisteddfod gyda Trystan Gravell ddim yno ddydd Llun a Si芒n Cothi wedi methu 芒 dod ddydd Mawrth oherwydd salwch yn y teulu. Dywedodd Sian Eirian, Cyfarwyddwryr Eisteddfod, fod gan bob un o'r llywyddion "resymau teilwng" dros fethu 芒 dod. Ond ychwanegodd ei bod yn edrych ymlaen at weld Fflur Wyn y gantores ar y maes heddiw. Y mae Fflur Wyn yn wyneb cyfarwydd i eisteddfodwyr yng Nghymru. Dywedodd mai 10 oedd hi yn cystadlu gyntaf ond ychwanegodd mai dim ond wedi iddi adael Cymru y sylweddolodd hi wir werth yr Eisteddfod fel llwyfan. "Dydy ni ddim yn sylweddoli yma yng Nghymru pa mor lwcus ydym ni fod gennym ni yr Eisteddfod. Dim ond ar 么l mynd m芒s o Gymru y sylweddolais i pa mor lwcus ydym ni nid yn unig yn cael y cyfle yma i berfformio ond hefyd ein bod ni yn dysgu ennill, dysgu colli a dod i adnabod ein gilydd a chael cyfle i ddod at ein gilydd bob blwyddyn i fwynhau a dangos i'r wlad beth sydd gennym ni i'w gynnig. "Dwi'n ddiolchgar iawn i'r Urdd am roi y cyfle yma a diolch yn fawr iawn am fy ngwahodd i'n 么l fel llywydd y dydd - mae'n bleser mawr cael bod yma," meddai. Cysylltiadau
Dyw'r 大象传媒 ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol |
About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy 听 |