大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Urdd 2007

大象传媒 Homepage
Cymru'r Byd

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Straeon

Cymryd rhan yn y gwasanaeth fore Sul

Cychwyn trwy gyrraedd nod ariannol

Yr Urdd yn hyderus o lwyddiant yn Shir G芒r

Cychwynnodd Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2007 fore heddiw yn hapus fod y nod ariannol a osodwyd i bobl Shir G芒r wedi mwy na'i chyrraedd.

Gosodwyd nod o 拢250,000 i'r Gronfa Leol a chyhoeddodd yr Urdd ddydd Sul i 拢40,000 yn fwy na hynny gael eu casglu - 拢290,000 i gyd.

Ac er i'r maes fod dan gwmwl o ran tywydd ddydd Sul yr oedd y trefnwyr yn hyderus y bydd yn wythnos lwyddiannus.

'Wythnos i'w chofio'
"Mae'n argoeli i fod yn wythnos i'w chofio. Mae'r gwirfoddolwyr lleol wedi bod yn gweithio'n ddygn ers pedair blynedd a mwy yn paratoi," meddai llefarydd.

Cymryd rhan y y gwasaneth fore Sul. "Disgwylir hyd at 100,000 o ymwelwyr i'r ardal yn ystod yr wythnos ac mae gwledd yn eu haros i gyd," meddai.

Dywedodd hefyd y bydd mwy o garafannau nag erioed o'r blaen ar y maes carafannau sy'n hynod o gyfleus ar gyfer y maes.

Ychwanegwyd fod tocynnau y sioeau nos wedi gwerthu "fel slecs".

"Roedd tocynnau sioe disgyblion yr ysgolion uwchradd ar y nos Sul a'r nos Lun yn Theatr y Lyric, wedi gwerthu allan."

A dyna pam y trefnwyd perfformiad ychwanegol y prynhawn Sul.

Cymryd rhan y y gwasaneth fore Sul. Nos Sadwrn yr oedd pafiliwn yr Eisteddfod bron yn llawn ar gyfer cynhyrchiad Cefin Roberts o'r sioe agoriadol, Llyfr Du gan Tudur Dylan Jones a Mererid Hopwood.

Fore Sul, er gwaethaf glaw trwm yr oedd pob sedd yn y pafiliwn yn llawn ar gyfer gwasanaeth crefyddol gan blant ysgolion Sul yr ardal.

Brwdfrydedd ac ymroddiad
Wrth edrych ymlaen at ei heisteddfod olaf hi yn drefnydd dywedodd Si芒n Eirian, Cyfarwyddwr yr Eisteddfod a'r Celfyddydau:

"Dwi wedi mwynhau pob munud o gydweithio gyda phobl Shir G芒r. Mae eu brwdfrydedd a'u hymroddiad nhw'n anhygoel. Maen nhw wedi gweithio, nid yn unig i sicrhau y bydd pobl ifainc y sir yn cael y profiadau gorau posibl, ond y bydd Cymru gyfan yn cael croeso yno."

Pethau newydd
  • Ymhlith y pethau newydd ar y maes eleni mae cystadlaethau coginio ar Fws Coginio Llywodraeth y Cynulliad.

  • Bydd gweithdai animeiddio ar y maes am y tro cyntaf gyda chyfle i ymuno ag animeiddwyr proffesiynol cwmni Calon i greu cartwnau ac arbrofi gyda thechneg thaumatrope a hyd yn oed ymddangos yn eich cart诺n eich hun!

  • Datblygiad newydd arall eleni yw'r Babell L锚n gyntaf un yn Eisteddfod yr Urdd. gyda sesiwn Ll锚n yn y Babell Luniau yn yr Arddangosfa Gelf, Dylunio a Thechnoleg am bedwar bob dydd.



  • About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy