|
|
大象传媒 Homepage Cymru'r Byd | |||||||||||
禄 | |||||||||||
| |||||||||||
Ymateb Cymorth Wedi mwynhau'r ddalen hon? Anfonwch hyn at gyfaill! 听 |
StraeonDagrau'r CoedBrwdfrydedd ac egni ifanc yn llwyddo
Ni allai sioe gan ddisgyblion ysgolion uwchradd ardal beidio 芒 bod yn boblogaidd yn ei bro.
Felly yr oedd hi gyda chynhyrchiad Carys Edwards o Dagrau'r Coed. Cymaint y galw am docynnau trefnwyd perfformiad pnawn Sul yn ychwanegol at rai nos Sul a nos Lun yn Theatr y Lyric, Caerfyrddin. Yr oedd y lle yn llawn. Yn aml, gellir dweud am sioeau o'r fath nad ydyn nhw o ddiddordeb tragwyddol oni bai fod gennych chi fab neu ferch neu nith neu wyres neu fachan drws nesaf i'w sbotio ar y llwyfan. Y gamp gyntaf gydag unrhyw ymgais, felly, yw ceisio codi uwchlaw y tir hwnnw. O agoriad y llenni nid oedd amheuaeth y byddai hynny'n digwydd gyda dawns agoriadol yn rhyfeddu rhywun o gael cymaint o unigolion ar yr un llwyfan bach mewn ffordd mor drawiadol. Roedd y symud yn wefr ac yn addo cynhyrchiad graenus. Profwyd sawl tro yn ystod y perfformiad fod gan Carys Edwards nid yn unig lygaid arbennig ar gyfer tynnu lluniau gyda phobl ar lwyfan ond hefyd i ddisgyblu cast mor amrywiol o blant ysgol. Cyfres o 18 olygfeydd yn diweddu mewn c芒n oedd y strwythur gyda stori - gweddol denau - yn troi o amgylch Wayne (Si么n Ifan), ei gariad Lisa (Hanna Hopwood) a Dafydd (Dafydd Rhys)y mae gan Lisa deimladau tuag ato yntau hefyd. Mae Wayne yn olygus, yn hync sy'n chwarae rygbi, yn fab i rieni cyfoethog sy'n ei wisgo mewn Gucci ac Armani ac yn trefu iddo gael chwarae i Gymru dan 18. Lisa, wedyn, a'i mam sengl yn gwbl ddi-glem o gwmpas y cartref, yn yfed a gosod dyletswyddau teuluol a gofal ei dau blentyn arall ar ysgwyddau ei merch. Mae Dafydd yn fachgen galluog - yn swot sy'n ymylu ar fod yn nerdaidd a chanddo gydwybod cymdeithasol. Er bod ei frawd, Iwan (Gethin Lewis), yn y fyddin mae Dafydd yn heddychwr ond ei slob o dad (Iwan Williams) sy'n trin ei wraig (Lowri Pugh-Morgan) fel cadach llawr am i Dafydd ddilyn ei frawd 'for queen and country' yn hytrach na mynd i goleg. Mae'r cyfan yn troi o gwmpas Ysgol Gyfun Glyn Derwen gan ddarlunio'n effeithiol iawn y carfannu a'r croesdynnu sydd yna rhwng unigolion a gangiau mewn lle felly gyda Cerys (Carys Ann Lewis) yn bennaeth y mwyaf ymosodol o'r giangiau a'i bryd ar ddwyn Wayne oddi ar Lisa. O fewn deuddydd gwelodd rhywun ddwy sioe gerdd gan yr Urdd. Llyfr Du gydag actorion proffesiynol nos Sadwrn a hon bnawn Sul. Un gwahaniaeth amlwg oedd fod caneuon ddydd Sul gryn dipyn yn fwy cofiadwy gyda nifer o linellau dyfynadwy: "Mae bod yn fyw yn gyffur ac yn gyffro." "Mae angen bitch ym mhob rhyw dre i gadw'r gweddill yn eu lle." "Snog efo boi fel tithe yn y bog." Reit ar y cychwyn cafwyd Pwy Ydw I? ac erbyn cyrraedd Bomio'r Bygars Bach! yr oedd rhywun yn dechrau meddwl sawl 'show-stopper' sy'n bosib mewn un sioe a chyda phob golygfa yr oeddech yn teimlo'r gynulleidfa yn cynhesu iddi a'i hymateb yn mynd yn fwy brwd gyda phob uchafbwynt. Dim amheuon felly am y perfformiad ac rwy'n si诺r y byddai'r t卯m cyfarwyddo a'r cast y cyntaf i ddweud iddynt fod yn ffodus o sgript Catrin Dafydd a chyfraniad Hywel Griffiths ac Eurig Salisbury gyda'r caneuon - y tri'n brif lenorion yr Urdd - a golygyddiaeth Siwan Jones. Yr oedd wedi'i bitsio'n berffaith ar gyfer cast a chynulleidfa gan roi cipolwg real iawn o fywydau pobl ifainc a'r pethau y maent yn ymgodymu 芒 hwy - y dewisiadau anodd, gobeithion rhieni ar eu cyfer, pwysau cyfoedion. Dafydd yn cael ei wthio tua'r fyddin gan ei hunllef o dad; Lisa yn gorfod wynebu'r ffaith mai "Adra yw fy lle i gyda Mam". A beth am freuddwydion afrealistig rhieni Wayne iddo chwarae i Gymru? Ac a yw brawd Dafydd mor hapus yn filwr ac 芒 dyb ei dad. Mae'n sioe sy'n cyffwrdd 芒 sawl pwnc. "Mae'n sioe am gyfeillgarwch a chasineb, am ddisgwyliadau rhieni i'w plant ac am gariad a thrais," meddai'r rhaglen. Ond yn sioe hefyd am heddychiaeth ac aneffeithiolrwydd grymoedd milwrol a'r wers nad wrth daro ac ymosod y mae cymodi. Ond mewn idiom ifanc nid oes dim byd 'hefi' yn y cyflwyniad er bod rhai golygfeydd pwerus iawn. Cwmni oedd hwn a sefydlwyd yn arbennig ar gyfer y cynhyrchiad gan ddisgyblion ysgolion uwchradd bro'r Eisteddfod gyda 126 yn cymryd rhan. Nawr un o eiriau mawr Eisteddfod yr Urdd bob blwyddyn yw 'gwaddol' yn yr ystyr ei bod yn gadael ar ei hol rywbeth o werth ar gyfer y dyfodol. Un peth sy'n sicr ni fyddai gwell gwaddol na diogelu'r cwmni hwn gan y byddai ganddo gyfraniad gwerthfawr i'w wneud eto. Does dim bwriad gwneud hynny ar hyn o bryd ond mewn gwlad lle mae cymaint o anfodlonrwydd, a disgwyliadau digon isel, am safonau theatraidd byddai hynny'n bechod. Mewn cynhyrchiad cyflawn annheg fyddai cyfeirio ar olygfeydd unigol gyda phob un yn rhagori yn eu ffyrdd eu hunain - rhai o safbwynt symud, rhai oherwydd y caneuon ac eraill oherwydd y defnydd o ffilm megis breuddwyd Wayne yn chwarae dros Gymru. Er yr eglurir arwyddoc芒d y teitl, Dagrau'r Coed yn gynnar yn y perfformiad dydw i ddim yn si诺r a wnaed yr arwyddoc芒d yn ddigon amlwg fodd bynnag. Bu'r Urdd yn ffodus o wasanaeth Carys Edwards ar y naill law a Meinir Richards a'i gofal am y gerddoriaeth - ond yn y pen draw ymdrech t卯m oedd hon a hwnnw'n d卯m ifanc a brwdfrydig iawn. Yno mae'r gobaith. Ychydig wythnosau yn 么l clywyd Carys Edwards yn amddiffyn yn ddygn iawn ar y radio Theatr Genedlaethol Cymru a fu'n cael ei pheltio gan sawl un ers ei sefydlu. Ar dystiolaeth Dagrau'r Coed mae ganddi gyfraniad llawer pwysicach na hynny i'w wneud tuag at ein theatr yn genedlaethol. Cysylltiadau
Dyw'r 大象传媒 ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol |
About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy 听 |