大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Urdd 2007

大象传媒 Homepage
Cymru'r Byd

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Straeon

Sian James

Hwb gan Si芒n i daith feithrin

Cyhoeddi CD ar faes yr Urdd

Rhoddir hwb arbennig i daith gan y Mudiad Ysgolion Meithrin ar faes yr Eisteddfod heddiw. Ac ar gyfer cychwyn Taith G诺yl Feithrin bydd plant bach yn ymuno 芒'r gantores Si芒n James i ganu ac actio a chyhoeddi CD newydd.

Bydd y cyfan yn digwydd am 1.00 yn Stiwdio 5.

Yn rhan o'r daith yn ystod tair wythnos olaf mis Mehefin bydd y Mudiad yn ymweld ag ugain o leoedd ar hyd a lled Cymru ac yn ddiddanu tua 7,000 o blant a'u rhieni.

Mae Si芒n James wedi cynhyrchu CD o ganeuon gwerin yn arbennig ar gyfer yr achlysur ac yn rhan o becyn adnoddau'r ar y thema Adar ac Anifeiliaid a bydd hwnnw ar werth yn yr Eisteddfod.

. "Dwi wirioneddol wedi mwynhau cynhyrchu'r CD yma. Roeddwn i wedi bod yn chwarae efo'r syniad o gynhyrchu CD o ganeuon gwerin i blant ers blynyddoedd, ac mae'r cais a gafwyd gan Mudiad Ysgolion Meithrin wedi rhoi hwb i mi i wireddu hyn," meddai Sian.

Mae'r CD yn gymysgedd o hen ffefrynnau fel Gee Ceffyl Bach a chaneuon llai cyfarwydd fel Aderyn Bach Syw yn ogystal 芒 threfniannau newydd.

"Pan gytunodd Si芒n James i greu'r CD yma roeddem ni wrth ein boddau gan mai hi yw'r amlycaf ymhlith cantorion traddodiadol modern yng Nghymru," meddai Iola Jones, Cyfarwyddwr Marchnata'r Mudiad Ysgolion Meithrin.

Yn dilyn y digwyddiad yn yr Eisteddfod bydd y daith ei hun yn cychwyn fore Llun, Mehefin 11 ym Merthyr Tudful

Derbyniodd y Mudiad 拢5,000 gan raglen grantiau loteri 'Arian i Bawb Cymru' ar gyfer talu am leoliadau.


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy