|
|
大象传媒 Homepage Cymru'r Byd | |||||||||||
禄 | |||||||||||
| |||||||||||
Ymateb Cymorth Wedi mwynhau'r ddalen hon? Anfonwch hyn at gyfaill! 听 |
StraeonEnnill lle nad yw'r Gymraeg yn c诺lTecstio ffrindiau mewn ysgol arall
Merch sy'n mynychu ysgol lle nad yw'r Gymraeg yn "c诺l" ymhlith y disgyblion eraill a enillodd Fedal y Dysgwyr yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Shir G芒r.
Wedi ei magu ar aelwyd ddi-Gymraeg dywedodd Caroline McManus ei bod yn tecstio ffrindiau mewn ysgol arall er mwyn defnyddio ei Chymraeg. Yn dod o Aberteifi dywedodd Caroline, yn dilyn prif seremoni yr Eisteddfod heddiw: "Mae nifer o oedolion yn siarad Cymraeg yn Aberteifi ond dim llawer o bobl ifainc - dydi hi ddim yn c诺l siarad Cymraeg yn fy ysgol i," meddai. Awgrymodd mai un rheswm am hynny yw nad oes digon o "selebs Cymraeg" ond ychwanegodd i Glyn Wise fod yn rhywfaint o ddylanwad. Ychwanegodd mai mewn ysgol arall y mae ei ffrindiau sy'n siarad Cymraeg. "Ac fe fydda i'n eu tecstio nhw yn Gymraeg," meddai. Ond yr oedd ganddi air o ddiolch i dair athrawes yn yr ysgol a fu'n ei helpu ar gyfer y gystadleuaeth. Meddai Caroline: "Roedden nhw wedi rhoi eu hamser rhydd i fyny ar gyfer fy helpu, ac yn syml, dwi eisiau dweud diolch iddynt am eu gwaith caled dros y misoedd!" meddai. Yn rhan o'r gwaith a anfonodd i'r gystadleuaeth yr oedd sgwrs 芒 Cherie Blair wedi i Caroline ei chyfarfod ar 么l ennill cystadleuaeth yn 2004. Yn dilyn ei champ yr wythnos hon bydd yn dychwelyd i ysgol Uwchradd Aberteifi yr wythnos nesaf i sefyll ei arholiadau Ffrangeg, Eidaleg a Chymraeg gan obeithio wedyn mynd i astudio'r gyfraith. Rhoddwyd Medal y Dysgwyr eleni gan Ferched y Wawr, Rhanbarth Sir Gaerfyrddin ynghyd 芒 拢200 o gymorth ariannol i loywi iaith yr enillydd er cof am y diweddar Greville James, Cwmafan. Noddwyd y seremoni gan Gyrfa Cymru. Cysylltiadau
Dyw'r 大象传媒 ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol |
About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy 听 |