|
|
大象传媒 Homepage Cymru'r Byd | |||||||||||
禄 | |||||||||||
| |||||||||||
Ymateb Cymorth Wedi mwynhau'r ddalen hon? Anfonwch hyn at gyfaill! 听 |
StraeonTraffig yn boenond bydd 'popeth yn iawn yfory'
Er gwaethaf trafferthion trafnidiaeth yn ystod dau ddiwrnod cyntaf yr Eisteddfod dywedodd y trefnwyr nad ydynt yn bryderus y bydd pethau'n gwaethygu yfory pan fydd marchnad anifeiliaid ar ran arall o'r safle.
Dywedodd Sian Eirian, cyfarwyddwr yr Eisteddfod, y bydd yna drefniant gwahanol ar gyfer trafnidiaeth fore Mercher yn dilyn trafodaethau gyda threfnwyr y Mart. "Ac felly yfory fe fydd yna ddwy ffrwd i'r traffig i sicrhau y bydd y ffermwyr hynny sy'n mynd i'r mart yn hapus ac y bydd eisteddfodwyr yn hapus," meddai. Bu cryn gwyno fore Llun a heddiw (Mawrth) gyda rhai ymwelwyr dros awr yn hwyr yn cyrraedd maes yr Eisteddfod - rhai wedi cymryd dros awr a chwarter i deithio'r tair milltir o dref Caerfyrddin. Ond dywedodd Sian Eirian i'r Eisteddfod fod "mewn trafodaethau cyson" efo'r heddlu a Chyngor Sir Caerfyrddin a bod pethau yn gwella. Ychwanegodd i'r ffaith ei bod yn 诺yl banc gymhlethu'r broblem gan annog pawb i gychwyn yn gynnar ac hefyd i gadw i'r rhan gywir o'r lonydd erbyn cyrraedd cyrion yr eisteddfod a pheidio a cheisio goddiweddyd traffig sydd yno'n barod. Dywedodd fod cylchdro cyfagos - cylchdro Pensarn - yn un lle mae tagfa bob amser. "Yn naturiol yr ydw i'n cydymdeimlo a'r sefyllfa ac yn gofyn i bawb fod yn amyneddgar," meddai gan alw ar yrwyr i ddilyn arwyddion yr Eisteddfod. "Hefyd yr ydym yn gofyn i bobl wrando ar y stiwardiaid wrth iddyn nhw eich cyfarwyddo," meddai. Ychwanegodd fod yr Eisteddfod wedi cael maes parcio ychwanegol gyda bws wennol i liniaru'r broblem. "Rwy'n gobeithio ein bod wedi lliniaru pryderon pawb," meddai. Cysylltiadau
Dyw'r 大象传媒 ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol |
About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy 听 |