|
|
大象传媒 Homepage Cymru'r Byd | |||||||||||
禄 | |||||||||||
| |||||||||||
Ymateb Cymorth Wedi mwynhau'r ddalen hon? Anfonwch hyn at gyfaill! 听 |
StraeonCaryl a'r barddoniCantores yn fardd plant cenedlaethol
Bydd Bardd Plant newydd Cymru yn ymweld ag ysgolion arbennig i gynnal gweithdai yn ystod y flwyddyn nesaf.
Dywedodd Caryl Parry Jones fod ganddi fab awtistig ei hun a'i bod yn ymwybodol o ofynion y plant hynny. "Fydda i ddim yn eu diystyru nhw," meddai yn dilyn y cyhoeddiad oddi ar lwyfan Eisteddfod yr Urdd ddoe mai hi fydd yn olynu Gwyneth Glyn yn fardd plant cenedlaethol Cymru. Hi yw'r wythfed i ddal y swydd ond i lawer bydd yn fwy adnabyddus fel cantores nag fel bardd - er iddi yn y gorffennol gyfansoddi geiriau i lawer o'i chaneuon ei hun. "Ers yn blentyn mae gen i hoffter o iaith a beth fedrwch chi wneud gyda geiriau," meddai gan ychwanegu mai rhan o'i gwaith fydd trosglwyddo yr hwyl o drin geiriau i blant a'u cael i fynegi eu teimladau. Dywedodd ei bod yn edrych ymlaen yn fawr at y gwaith. "Yr oeddwn i'n gwbl 'chuffed' pan gefais i'r cynnig. Mi gefais i fy ngwahodd am goffi gyda Carys Wheelan o S4C a doedd gen i ddim syniad beth oedd ganddi hi mewn golwg. Roeddwn i wrth fy modd gan fod hon yn swydd unigryw a'r llinach yn un anrhydeddus iawn - tan r诺an!" meddai. Dywedodd fod ganddi hi hoffter personol o bob math o farddoniaeth o gerddi caeth beirdd fel Ceri Wyn Jones, Tudur Dylan Jones a Myrddin ap Dafydd sydd wedi dal y swydd o'i blaen i gerddi Spike Milligan. "Rydw i'n mwynhau cerddi y gallwch eu mwynhau ar fwy nag un lefel sy'n gwneud ichi feddwl yn ddyfnach os ydych eisiau," meddai. Er yn byw yn y Bont-faen yn awr un o Ffynnongroyw ger Prestatyn yw Caryl Parry Jones ac wedi ennill ei phlwyf yn canu ac yn actio. Mynychodd Caryl Ysgol Mornant, Ffynnongroyw ac Ysgol Glan Clwyd, Llanelwy a Phrifysgol Cymru, Bangor, lle y graddiodd yn y Gymraeg. Mae hi wedi canu a pherfformio gyda sawl band dros y blynyddoedd, gan gychwyn yn yr ysgol gyda Sidan, yna Injaroc, Bando, a Caryl a'r Band. Mae hi bellach yn canu gyda'i band a chyda'r gr诺p harmoni clos, Harmony Central. Dywedodd mai un uchelgais ganddi fydd cael cantorion adnabyddus i ganu gwaith a gyfansoddwyd dan y cynllun gan blant. Yn ogystal 芒 sgwennu caneuon, mae'n awdur sawl ffilm i blant gan gynnwys ysgrifennu sgript a chaneuon Y Dyn Nath Ddwyn y Nadolig (1985) ar y cyd 芒 Hywel Gwynfryn ac Anrheg Elin (2000). Bu ganddi ei chyfres ddynwared ei hun ar S4C yn yr 80au ac yn ddiweddar bu'n hyfforddi tu 么l i'r llwyfan ar y gyfres Wawffactor ar S4C. Mae hefyd yn aelod o d卯m Talwrn Y Taeogion. Cynllun ar y cyd rhwng S4C, Cyngor Llyfrau Cymru, Yr Academi Gymreig ac Urdd Gobaith Cymru yw Bardd Plant Cymru i "godi proffil barddoniaeth ymysg yr ifanc, a'u hannog i greu a mwynhau cerddi". "Mae hon yn joban dwi'n edrych ymlaen yn aruthrol tuag ati. Does dim yn fwy deniadol, gonest a byw na dychymyg plentyn ac mae cael cyfle i grwydro drwy'r tiroedd breision hynny yn ddim llai na braint. "Dwi'n gobeithio cael oriau o hwyl a sawl agoriad llygad." Cysylltiadau
Dyw'r 大象传媒 ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol |
About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy 听 |