|
|
大象传媒 Homepage Cymru'r Byd | |||||||||||
禄 | |||||||||||
| |||||||||||
Ymateb Cymorth Wedi mwynhau'r ddalen hon? Anfonwch hyn at gyfaill! 听 |
StraeonGalw am well deddf iaith'Daeth yr amser am ddeddf a chomisiynydd'
Mae'r Urdd wedi galw am adolygu Deddf yr Iaith Gymraeg ac am ystyried penodi comisiynydd iaith.
Yn 么l Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr y mudiad, mewn datganiad heddiw; mae'r amser wedi dod i wneud y ddeddf bresennol yn fwy perthnasol. Pedair blynedd ar ddeg "Nod yr Urdd yw sicrhau y cyfle trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg, i holl ieuenctid Cymru i ddatblygu'n unigolion cyflawn, a'u galluogi i chwarae rhan adeiladol yn y gymdeithas, gan feithrin sgiliau personol a chymdeithasol," meddai'r datganiad. "Er mwyn creu'r amgylchfyd gorau i'r mudiad allu cyflawni hyn, mae'n amserol, bedair blynedd ar ddeg wedi'r Ddeddf Iaith ddiwethaf, i adolygu'r ddeddfwriaeth, ac i ystyried cyflwyno gwelliannau iddi i'w gwneud yn fwy perthnasol i Gymru heddiw," ychwanegwyd. Pwysleisir bod y "cysyniad o hawliau" yn arbennig o berthnasol ym maes plant a phobl ifanc. "Mae'r Urdd am sicrhau'r hawl i bawb i dderbyn gwasanaeth ieuenctid, yn eu dewis iaith," meddai'r datganiad. Dywed hefyd fod sicrhau gwell statws i'r Gymraeg yn gweithle yn bwysig i'r ifanc - yn enwedig y rhai sy'n derbyn addysg drwy gyfrwng y Gymraeg. Comisiynydd "Gan fod pwerau newydd bellach gan y Cynulliad, dylai aelodau'r Cynulliad sicrhau'r amser a'r sylw angenrheidiol i drafod ac i arwain gwelliannau yn y maes hwn. "Gwyddom fod gan Iwerddon drefniant sy'n cynnwys Comisiynydd Iaith, a chredwn y gallai hwn fod yn batrwm i'w ddilyn," meddir. "Mae hefyd yn amserol adolygu'r Ddeddf yng nghyd-destun y newidiadau sydd yn digwydd ar hyn o bryd yn y maes cydraddoldeb, a'r posibilrwydd y bydd Mesur Sengl Cydraddoldeb newydd yn cael ei gyflwyno gan Lywodraeth San Steffan. "Bryd hynny, bydd angen cymharu pwerau Bwrdd yr Iaith Gymraeg gyda'r pwerau a gynigir gan y Mesur Sengl ar gyfer y meysydd cydraddoldeb eraill." Mudiadau eraill Yn dilyn cyfarfod gyda rhai mudiadau Cymraeg ar faes yr Eisteddfod ddydd Iau gwahoddodd Efa Gruffudd Jones fudiadau eraill i ymuno hefyd. "Mae gan yr Urdd draddodiad hir o arwain ym mywyd diwylliannol y genedl ac o gyfrannu mewn ffordd eithriadol o gadarnhaol i sicrhau dyfodol i'r Iaith, a'n bwriad wrth wneud y cyhoeddiad hwn yw annog gwleidyddion Cymru i sicrhau'r amgylchiadau gorau i'r Gymraeg ffynnu," meddai. Cysylltiadau
Dyw'r 大象传媒 ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol |
About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy 听 |