Trafod cais i ffracio ym Mro Morgannwg
- Cyhoeddwyd
Mae pwyllgor cynllunio cyngor Bro Morgannwg wedi gohirio penderfyniad ynghylch cais i dyllu am nwy.
Mae cwmni o Ben-y-bont ar Ogwr, Coastal Oil and Gas Cyf, wedi gwneud cais am yr hawl i dyllu am nwy confensiynol a nwy si芒l yn Lland诺.
Ond mae gr诺p ymgyrchu o'r enw The Vale Says No wedi ei ffurfio i wrthwynebu'r cais yma a'r posibilrwydd o dyllu mewn safleoedd eraill yn ne ddwyrain Cymru.
Mae'r gwrthwynebwyr yn ofni bydd y dull dadleuol ffracio yn cael ei ddefnyddio.
Mae ffracio'n golygu chwistrellu tywod a hylif i'r creigiau dan ddaear i'w gwahanu a rhyddhau'r nwy.
Yn America mae'r broses wedi achosi dadl gan fod rhai trigolion yn mynnu fod nwy si芒l yn llifo i'r cyflenwad d诺r yfed gan achosi i dd诺r o'r tap danio.
Mae aelodau pwyllgor cynllunio'r cyngor yn bwriadu ymweld 芒'r safle cyn diwedd mis Hydref.
'Peryglus iawn'
Mae Ffrainc wedi gwahardd y broses wedi i 10,000 o bobl arwyddo deiseb yn ei gwrthwynebu ond mae llywodraeth Gwlad Pwyl yn fwy cefnogol o'r broses.
Yn 么l gwefan ymgyrch The Vale Says No gall dyllu am nwy si芒l fod "yn beryglus iawn".
"Ar hyn o bryd y prif bryder yw'r s诺n fydd yn cael ei greu wrth i dyllu mynd yn ei flaen saith niwrnod yr wythnos yn yr ardal wledig hon," meddai un o'r ymgyrchwyr, Louise Evans.
"Ni ddylai tyllu yng nghefn gwlad hyd yn oed cael ei ystyried."
Roedd tua 50 o aelodau o The Vale Says No yn ymgyrchu y tu allan i swyddfeydd Cyngor Bro Morgannwg yn Y Bari nos Iau.
Mae Mike Jones yn berchen cybiau c诺n ar safle hen faes awyr yn Lland诺 sydd gyferbyn y safle lle y byddai tyllu yn cael ei gyflawni pe bai'r cais yn cael ei gymeradwyo.
"Mae yna broblemau diogelwch ynghlwm 芒'r tyllu am fod pobl yn gweithio ac yn byw yn agos i'r safle," meddai.
Dywedodd perchenog Coastal Oil and Gas, Gerwyn Williams, fod gan y cynllun botensial sylweddol oherwydd y gallai greu swyddi lleol a chynyddu sicrwydd ynni.
"Ar hyn o bryd yr unig waith sy'n cael ei gyflawni yw tyllu archwiliadol," meddai.
"Bydd hi'n cymryd dwy flynedd i ni gasglu'r holl wybodaeth sydd angen arnom."
Eisoes mae Mr Williams wedi honni mai nod y cynllun yw tyllu am nwy confensiynol yn hytrach na nwy si芒l.
Cronfeydd nwy
Penderfynodd Mr Williams dynnu yn 么l o gyflwyno cais arall i dyllu yn Lland诺 wedi i drigolion lleol sylwi bod gwybodaeth ategol ar gyfer y cais yn cyfeirio at nwy si芒l.
Mae'r ymgyrchwyr ym Mro Morgannwg wedi galw am ohiriad cenedlaethol yngl欧n 芒 ffracio tan i beryglon posib y dull gael ei asesu.
Mae ymchwil gan gwmn茂au yn dangos bod gan Gymru gronfeydd sylweddol sydd gymaint 芒'r cronfeydd nwy o dan F么r y Gogledd.
Dangosodd ymchwil diweddar y gallai fod nwy si芒l werth hyd at 拢70 biliwn yn ne Cymru.
Ond mae pryderon wedi eu lleisio am effaith amgylcheddol ffracio ac mae 'na ofnau am lygru d诺r a dirgryniadau.
Ym mis Mehefin bu'n rhaid atal y gwaith yn Sir Gaerhirfryn - y ffynhonnau nwy si芒l cyntaf yn Ewrop - oherwydd pryder am gysylltiad gyda dau ddaeargryn bach yn Blackpool.
Ond fe wnaeth pwyllgor Aelodau Seneddol trawsbleidiol ar Ynni a Newid Hinsawdd wfftio pryderon diogelwch ac argymell y dylai tyllu gael ei ganiat谩u yn y DU.
Dywedodd adroddiad gan Sefydliad Rheolwyr a Peirianwyr Nwy, a gyhoeddwyd yn gynharach yn y mis, fod adnoddau anghonfensiynol fel nwy si芒l yn cael eu rheoleiddio'n ddigonol ym Mhrydain gan Asiantaeth yr Amgylchedd a'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.