大象传媒

'Dryswch' treth y bagiau plastig

  • Cyhoeddwyd
Bagiau plastigFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae 'na eithriadau i rai nwyddau

Diwrnod cyn i'r ddeddf ddod i rym ar godi t芒l am fagiau untro mae 'na ddryswch o hyd am y rheolau.

O ddydd Sadwrn ymlaen fe fydd siopwyr yn wynebu cost o isafswm o 5c am unrhyw fag y byddan nhw'n ei gael mewn siop - gan gynnwys bwyd poeth o fwytai.

Ond mae 'na eithriadau ac o bosib hyn fydd yn drysu siopwyr a pherchnogion siopau.

Mae Ffederasiwn y Busnesau Bach yn dal yn pryderu nad yw'r siopau bach yn deall y yn iawn.

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod 40,000 o becynnau gwybodaeth wedi eu hanfon at siopwyr ym mis Awst.

Daw'r ddeddf i rym yn sgil Cyfraith y Cymry, cystadleuaeth oedd yn rhoi cyfle i bobl Cymru roi barn am ddeddfau sydd angen cael eu cyflwyno, er mwyn tynnu sylw at bwerau newydd y cynulliad.

Y tri syniad ar y rhestr fer oedd gwahardd bagiau plastig, gwahardd curo plant a sefydlu corff i gydlynu timau achub.

Bydd y ddeddf bagiau yn cael effaith ar bob siop: siopau bwyd, siopau dillad, fferyllfeydd, siopau llyfrau a nwyddau.

Ailddefnyddio bagiau

Caiff y siopau eu hannog i gyfrannu'r dreth ychwanegol a godir tuag at elusennau ac achosion amgylcheddol.

Dim ond busnesau gyda mwy na 10 o weithwyr a fydd yn gorfod cadw cofnod o'r nifer o fagiau fydd yn cael eu gwerthu a chadw cofnod o'r modd y caiff yr arian ei wario.

Yn 么l Llywodraeth Cymru, y nod ydi annog pobl i ailddefnyddio bagiau dro ar 么l tro a lleihau'r defnydd o'r math o fagiau sy'n niweidio'r amgylchedd.

Gallai cwmn茂au wynebu dirwyon o hyd at 拢5,000 os ydyn nhw'n rhoi bag untro i gwsmer am ddim gan y byddan nhw'n torri'r gyfraith.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd 'na gyfnod o dri mis i siopwyr a siopau ddod i delerau gyda'r ddeddf a bod yr holl wybodaeth angenrheidiol ar wefan arbennig.

Mae'r llywodraeth am weld Cymru yn dilyn Iwerddon ac yn gweld 90% o ostyngiad mewn defnydd o fagiau plastig.

Dywed Non Rhys o Ffederasiwn Busnesau Bychain Cymru ei bod yn credu y bydd hi'n amser hir i bobl ddod i arfer a'r drefn newydd.

"Dyw pob busnes heb dderbyn pecyn gwybodaeth, felly rydym wedi bod yn ceisio cysylltu 芒 chymaint o fusnesau a phosib.

"Does dim rhestr gyflawn ar gael o bob un busnes yng Nghymru.

"Bydd yna rhai busnesau yn parhau yn y tywyllwch."

Parchu'r ddeddf

Dywedodd Consortiwm Manwerthu Prydain, sy'n cynrychioli'r holl fanwerthwyr, bod eu haelodau yn barod ond bod rhaid i Lywodraeth Cymru "ddatrys anghysonderau dryslyd posib".

"Mae angen egluro a datrys yr anghysonderau sy'n golygu er enghraifft ein bod yn cael bag am ddim gyda sglodion mewn pecyn sy'n rhannol agored ond nid wrth brynu'r sglodion efo byrger a ddaw mewn bocs," meddai Bob Gordon, pennaeth amgylchedd y consortiwm.

"Neu mewn siop a fydd yn rhoi bag i chi am 500 o sgriwiau ond nid am bump neu chwech."

Awdurdodau lleol fydd yn gyfrifol am sicrhau bod y ddeddf newydd yn cael ei pharchu.

Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru y bydd yn annhebygol y bydd y ddeddf newydd "ar frig blaenoriaethu swyddogion safonau masnachu ac amgylcheddol".

"Yr opsiwn cyntaf fydd ceisio helpu busnesau i ufuddhau 芒'r rheolau.

"Dim ond pe bai busnesau yn anwybyddu cyngor dros gyfnod o amser y byddai awdurdodau lleol yn mynd i gyfraith," meddai llefarydd.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod wedi bod "yn cyfathrebu" gyda busnesau i godi ymwybyddiaeth am y newid ac wedi anfon dau becyn gwybodaeth, ym mis Mawrth ac yna ym mis Awst.

"Rydym eisiau gweld siopwyr yn osgoi'r t芒l lle mae hynny yn bosib ac yn ail-ddefnyddio eu bagiau eu hunain.

"Rydym yn disgwyl gweld 90% o ostyngiad mewn defnydd bagiau untro unwaith daw'r ddeddf i rym."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 大象传媒 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol