大象传媒

拢5m ar gyfer hybu bywyd gwledig Ceredigion

  • Cyhoeddwyd
Tr锚n rheilffordd Cwm RheidolFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd un cynllun yn adfer a gwella cyfleusterau saith gorsaf ar hyd Rheilffordd Cwm Rheidol

Bydd 拢5m ar gael i hybu prosiectau bywyd gwledig yng Ngheredigion yn ystod y ddwy flynedd a hanner nesaf.

Bydd ail gam Cynllun Datblygu Gwledig Cymru, sy'n cael ei lansio ar Hydref 10, yn hwb i brosiectau mewn pum maes cyffredinol.

Mae'r prosiectau'n cynnwys cynllun 拢795,000 i uwchraddio bloc llety ac adeiladu 28 ystafell en suite newydd i 140 o aelodau yng Ngwersyll yr Urdd yn Llangrannog.

Hefyd bydd cynllun Ceredigion ar gefn Ceffyl gwerth 拢182,000 yn datblygu rhwydwaith o bum llwybr ar gyfer ymwelwyr.

拢112,000

Yn ogystal bydd cynllun gwerth 拢112,000 yn helpu marchnata rasio harnais yng Ngheredigion drwy ffurfio cwmni Ceredrotian.

Bydd cynllun arall gwerth 拢190,000 yn adfer a gwella cyfleusterau'r saith gorsaf ar hyd Rheilffordd Cwm Rheidol.

Ariennir y prosiectau gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

Roedd cam cynta Cynllun Datblygu Gwledig Cymru yn gweithredu rhwng 2008 a 2011.

Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor y cafwyd cryn lwyddiant hyd yma, gan gynnwys darparu hyfforddiant i fwy na 300 o bobl, diogelu mwy na 27 o swyddi, a rhoi hwb o 拢171,419 i elw'r mentrau hynny sydd wedi derbyn cymorth.

Bydd amrywiaeth o fudiadau'n trefnu'r gweithgareddau, gan gynnwys Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Ceredigion, RAY Ceredigion, Ecodyfi, RSPB, yr Urdd a Menter Aberteifi.

Bydd y Cynllun Datblygu Gwledig yn darparu 拢3.1 miliwn o gyllid, a bydd 拢2.1 miliwn yn dod o ffynonellau eraill.