Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Iwerddon 10-22 Cymru
Mae Cymru wedi cyrraedd y pedwar olaf yng Nghwpan y Byd yn Seland Newydd.
Tra bod chwaraewyr Iwerddon yn gadael am Faes Awyr Auckland, mae t卯m Cymru ar eu ffordd i'r un ddinas ar gyfer y rownd gyn derfynol yn erbyn Ffrainc.
Sgoriodd Cymru dri chais wrth guro Iwerddon 22-10.
Ar 么l y g锚m dywedodd capten Cymru, Sam Warburton, fod taclo cadarn wedi sicrhau'r fuddugoliaeth.
"Roedd yn berfformiad arbennig.
"Roedden ni'n gwybod fod ganddyn nhw chwaraewyr oedd yn gallu'r cario'r b锚l ac roedd hynny'n golygu bod angen taclo cadarn i sicrhau nad oedden nhw'n mynd dros y llinell fantais.
'Peryglus'
"Maen nhw'n d卯m peryglus ac roedd yn ymdrech wych ar ein rhan ni."
Dechreuodd Cymru y g锚m ar d芒n ac o fewn tair munud roedden nhw ar y blaen.
Hyrddiodd Jamie Roberts drwy amddiffyn Iwerddon ac aeth y b锚l yn gyflym i Shane Williams ar yr asgell sgoriodd gais trawiadol.
I roi hwb pellach i hyder Cymru, llwyddodd Rhys Priestland gyda'r trosiad o ongl anodd.
Yn fuan wedyn dechreuodd Iwerddon roi pwysau ar Gymru.
Ildiodd Cymru dair cic cosb mewn cyfnod byr ond, yn annisgwyl, penderfynodd Iwerddon gicio i'r ystlys yn lle mynd am y pyst.
Er gwaetha'r bygythiad i'r llinell roedd amddiffyn Cymru yn gadarn.
Daeth unig bwyntiau Iwerddon yn yr hanner cyntaf o esgid O'Gara oherwydd cic gosb yn erbyn Sam Warburton.
Ond yn fuan wedyn llwyddodd Cymru i gadw'r bwlch i saith pwynt.
Ar wib
Wedyn ciciodd Lee Halfpenny gic gosb o gryn bellter.
Cymru ddechreuodd yr hanner cynta ar wib ond tro Iwerddon oedd hi ar 么l yr egwyl.
Ar 么l pwyso ar linell Cymru cydchwaraeodd Ferris a Bowe cyn rhyddhau Keith Earls ar yr asgell a groesodd yn y gornel.
Llwyddodd O'Gara gyda'i gic fel bod y sg么r yn gyfartal 10-10 ar 么l 44 munud.
Ond tarodd Cymru yn 么l bron yn syth. Fe gollodd Iwerddon y b锚l yn y lein a dangosodd mewnwr Cymru, Mike Phillips, ei gryfder a'i gyflymdra wrth groesi yn y gornel chwith.
Llaw ucha
Methodd Priestland gyda'r gic. Roedd Cymru ar y blaen o 15-10.
Wrth i'r g锚m barhau roedd blaenwyr Cymru 芒'r llaw ucha. Cafodd Cian Healy ei gosbi yn y sgarmes ac roedd cyfle i Priestland roi Cymru ymhellach ar y blaen.
Ond pwniodd y b锚l y trawst.
Parhau i bwyso wnaeth Cymru ac roedd cryfder a chyflymdra Jonathan Davies yn amlwg wrth iddo sgorio'r trydydd cais.
Roedd Iwerddon yn blino a llwyddodd Davies i fylchu rhwng Heal a Earls i groesi yn y gornel.
Roedd trosiad Priestland yn llwyddiannus a Chymru ar y blaen 22-10 ar 么l 63 munud.
Daeth cyfle arall iddo ar 么l trosedd Trimble yn erbyn Gethin Jenkins ond am yr eildro pwniodd y b锚l y trawst.
Ar 么l hynny dim ond saith munud oedd yn weddill. Er i Iwerddon bwyso, roedd amddiffyn Cymru'n gadarn.
Mae'r fuddugioliaeth yn golygu bod Cymru yn y pedwar olaf am y tro cyntaf ers 1987.
Dywedodd yr hyfforddwr, Warren Gatland: "Yn gorfforol, mae'r chwaraewyr wedi bod mewn cyflwr da ac mae'r perfformiad wedi gwella o un g锚m i'r llall.
"Dyw'r t卯m hwn ddim yn ofni neb ac mae 'na gybwysedd o ran ieuenctid a phrofiad, maint a chyflymder.
"A dweud y gwir, fe oedden ni'n hyderus iawn cyn y g锚m."
Dywedodd y dylai Cymru fod yn falch o'r t卯m. "Maen nhw wedi paratoi'n galed am bum mis.
"Dy'n ni ddim yn barod i fynd adre eto."
Cymru: Leigh Halfpenny, George North, Jonathan Davies, Jamie Roberts, Shane Williams, Rhys Priestland, Mike Phillips, Gethin Jenkins, Huw Bennett, Adam Jones, Luke Charteris, Alun Wyn Jones, Dan Lydiate, Sam Warburton, Toby Faletau.