大象传媒

Cyn swyddog Cynulliad i arwain ymchwiliad ariannu

  • Cyhoeddwyd
Ysgrifennydd Cymru Cheryl Gillan ASFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yn 么l Cheryl Gillan, fe ddylai Llywodraeth Cymru fod yn atebol am yr hyn mae'n wario

Bydd cyn-glerc y Cynulliad Cenedlaethol yn arwain ymchwiliad i'r modd y mae'r weinyddiaeth ym Mae Caerdydd yn cael ei hariannu.

Dydd Mawrth cyhoeddodd Ysgrifennydd Cymru Cheryl Gillan mai Paul Silk fydd yn cadeirio'r comisiwn.

Daeth yr addewid am gomisiwn fel rhan o'r cytundeb clymblaid rhwng y Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn San Steffan.

Mae Mrs Gillan wedi galw am wneud Llywodraeth Cymru yn atebol am yr hyn mae'n ei wario.

Bydd cynrychiolwyr o'r pedair prif blaid, ynghyd 芒 dau aelod annibynnol, yn ymuno 芒 Mr Silk.

Ar hyn o bryd does gan y llywodraeth ddim hawl i godi trethi a dim ond yr hyn sy'n dod gan gyllid blynyddol y Trysorlys sydd ar gael i'w wario.

'Mwy atebol'

Dywedodd Mrs Gillan: "Yn dilyn refferendwm mis Mawrth, mae gan Lywodraeth Cymru bwerau ar feysydd sydd wedi'u datganoli.

"Felly dyw hi ond yn iawn i ni edrych ar ffyrdd i wneud y Cynulliad yn fwy atebol ac mae'r cyhoeddiad heddiw'n gam cynta' tuag at wneud hynny."

Bu Mr Silk yn Glerc y Cynulliad rhwng 2001 a 2007, ac mae'n gyn-glerc yn Nh欧'r Cyffredin.

"Mae gan y comisiwn dasg heriol a chymhleth ac rwy'n edrych 'mlaen at weithio'n adeiladol gyda llywodraethau'r DU a Chymru dros y misoedd nesa'," meddai.

"Rwyf eisiau gwrando a thrafod gyda phobl ar draws Cymru ar y materion pwysig hyn wrth i ni ddechrau ar ein gwaith."

Ymhlith y rhai fydd yn gweithio gyda Mr Silk mae cadeirydd cymdeithas adeiladu'r Principality Dyfrig John, a'r Athro Noel Lloyd, cyn is-ganghellor Prifysgol Aberystwyth.

Rheoli trethi

Bydd cynrychiolwyr o'r pleidiau'n cynnwys cyn aelod cabinet Llafur Sue Essex, cyn arweinydd y Ceidwadwyr yn y cynulliad Nick Bourne, ymgynghorydd economaidd Plaid Cymru Eurfyl ap Gwilym a Rob Humphreys, cyn-lywydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig.

Mae Llywodraeth Cymru wedi galw am gael rheoli rhywfaint ar drethi, gan gynnwys treth stamp.

Mae'r llywodraeth eisiau ychwanegu at y cyllid 拢14.5 biliwn trwy allu benthyg arian ac maen nhw wedi galw am ad-drefnu Fformiwla Barnett, y dull mae'r Trysorlys yn ei ddefnyddio i osod cyllid ar gyfer y gwledydd datganoledig.

Yn 么l rhai, mae'r dull hwn yn annheg i Gymru.

Ond fydd y comisiwn ddim yn edrych ar bwerau benthyca na fformiwla Barnett, sy'n cael eu hystyried ar wah芒n.

Bydd y comisiwn yn cyflwyno ei adroddiad y flwyddyn nesa' ac yn cyflwyno ail adroddiad ar y setliad cyfansoddiadol yn 2013.

Fe fydd yr ail adroddiad yn edrych ar bwerau'r cynulliad a'r ffin rhwng beth sydd wedi'i ddatganoli a beth sydd ddim.

'Proses ddeuol'

Croesawodd Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones y cyhoeddiad am y comisiwn, gan ddweud: "Rydym eisoes wedi edrych ar y modd mae Cymru'n cael ei hariannu trwy Gomisiwn Holtham a bydd yr ymchwiliad newydd yma'n dilyn 'mlaen o gasgliadau'r gwaith hwnnw.

"Mae hon yn broses ddeuol - gallwn ni ond symud 'mlaen gyda materion atebolrwydd os oes gwir ddatblygiad yn nhermau cyllid teg a phwerau benthyca. Mae gan Gymru angen pecyn cynhwysfawr o ddiwygiadau ariannol fydd yn golygu setliad mwy cadarn a theg."

Yn 么l arweinydd y Ceidwadwyr yn y cynulliad, Andrew RT Davies, bydd y broses yn "gwneud y Cynulliad Cenedlaethol yn fwy atebol i bobl Cymru", a chroesawodd y ffaith fod Paul Silk a'r aelodau eraill yn "dod 芒 phrofiad helaeth o ddatganoli i'r drafodaeth".

'Beiddgar ac uchelgeisiol'

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru Ieuan Wyn Jones: "Tra'i bod hi fyny i'r llywodraeth Gymreig bresennol i geisio sicrhau cytundeb teg i Gymru yn y tymor byr, mae'n rhaid i'r comisiwn greu sylfaen cyllidol cynaliadwy ar gyfer ein gwlad a chynyddu atebolrwydd ariannol ei llywodraeth, sydd wedi'i hethol yn ddemocrataidd.

"Mae'n rhaid i'r comisiwn hefyd fod yn feiddgar ac uchelgeisiol wrth edrych ar ba feysydd llywodraeth ddylai fod yn fater i bobl Cymru."

Yn 么l arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Kirsty Williams, mae Cymru'n "unigryw am nad oes ganddi bwerau i godi arian."

"Mae'r diffyg atebolrwydd dros sut mae arian yn cael ei godi'n ennyn anghyfrifoldeb yngl欧n 芒 sut mae arian yn cael ei wario."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 大象传媒 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol