大象传媒

Fferm ynni'r m么r gam yn nes

  • Cyhoeddwyd
SeaGenFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Argraff artist o dyrbeini sy'n defnyddio ynni'r m么r

Mae cynlluniau i agor cynllun ynni'r m么r cyntaf Cymru gam yn nes yn dilyn cytundeb prydles ger Ynys M么n.

Mae Ystadau'r Goron wedi cytuno ar brydles ar gyfer rhan o'r m么r ger Ynysoedd y Moelrhoniaid i'w ddefnyddio gan ddau gwmni fel partneriaeth - Marine Current Turbines (MCT) ac RWE nPower Renewables.

Bwriad y ddau gwmni yw gosod naw o dyrbeini yn y m么r fydd yn gallu cynhyrchu 10MW (Mega Watt) o ynni, sy'n ddigon i gyflenwi hyd at 10,000 o gartrefi, neu 20% o anghenion Ynys M么n.

Daeth peth o'r arian ar gyfer y cynllun gwerth 拢70 miliwn gan Swyddfa Gyllido Ewropeaidd Cymru.

Bydd Llywodraeth Cymru nawr yn ystyried ceisiadau am ganiat芒d amgylcheddol a chynllunio a gafodd eu cyflwyno ym mis Mawrth 2011, ac mae disgwyl penderfyniad o fewn y misoedd nesaf.

'Uchelgais'

Dywedodd Prif Weithredwr Marine Current Turbines, Dr Andrew Tyler:

"Gyda'r dechnoleg SeaGen sydd eisoes wedi ei brofi, a'r caniat芒d angenrheidiol yn dechrau disgyn i'w lle, rydym yn agosach at fedru agor fferm ynni m么r cyntaf Cymru.

"Un elfen hanfodol o hyd yw ariannu cynllun Ynysoedd y Moelrhoniaid, ond rwy'n hyderus y bydd y buddsoddiad yn dod o ystyried y gefnogaeth werthfawr a gafwyd hyd yma gan RWE a'r diddordeb cryf mewn ynni'r m么r gan gwmn茂au ynni eraill.

"Mae ein hymdrechion hefyd wedi cael cymorth oherwydd uchelgais llywodraeth y DU i harneisio ynni yn ein moroedd ac adeiladu diwydiant technoleg l芒n yma."

Ffynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Un o dyrbeini SeaGen gyda graffeg yn dangos sut y bydd yn gweithio

Croeso

Bydd y cynllun hefyd yn cyfrannu tuag at weledigaeth Cyngor Ynys M么n i sefydlu'r ynys fel canolfan ragoriaeth ar gyfer cynhyrchu ynni carbon isel fel rhan o'r cynllun Ynys Ynni.

Dywedodd cyfarwyddwr cynllun Ynys Ynni, Sasha Wynn Davies:

"Mae MCT ac RWE nPower Renewables yn bartneriaid i gynllun Ynys Ynni. Rydym wrth ein bodd fod y cytundeb yma gydag Ystadau'r Goron yn dod 芒 fferm ynni'r m么r cyntaf Cymru yn agosach.

"Yng nghyd-destun ehangach targedau ynni adnewyddol, bydd y cynllun 拢70m yma yn sicr o gymorth i wireddu'r weledigaeth o Ynys Ynni ar Ynys M么n ynghyd 芒 chyfrannu'n sylweddol at ddyheadau ynni adnewyddol Llywodraeth Cymru."

Os daw'r arian a chaniat芒d cynllunio ar gyfer y cynllun, gobaith MCT ac RWE nPower Renewables yw dechrau ar y gwaith comisiynu yn ystod 2014 neu 2015.

Mae'r ddau gwmni eisoes wedi gofyn barn amryw fudiadau ar y cynlluniau, gan gynnwys Cyngor Cefn Gwlad Cymru, RSPB, Trinity House, Asiantaeth Gwylwyr y Glannau a'r Ganolfan Amgylchedd Pysgodfeydd a Gwyddorau'r M么r.

Dywed y cwmni fod y cynllun wedi cael croeso yn gyffredinol.