Codi'r llen ar Theatr Colwyn gan un o enwogion y dref
- Cyhoeddwyd
Ar 么l gwaith adnewyddu gwerth 拢738,000 mae Theatr Colwyn wedi cael ei hailagor yn swyddogol gan yr actor Terry Jones, gynt o griw Monty Python.
Cafodd yr adeilad ym Mae Colwyn ei godi yn 1885 ac mae'n gartref i'r theatr hynaf yng Nghymru.
Hwn hefyd yw'r sinema hynaf ym Mhrydain sy'n dal i ddangos ffilmiau.
Daeth 拢500,000 o'r arian gan Rhaglen Adfywio Ardal Gogledd Cymru, a'r gweddill gan Gyngor Sir Bwrdeistref Conwy - perchnogion y ganolfan sydd hefyd yn gyfrifol am ei redeg.
Ymhlith y gwaith sydd wedi ei wneud y mae swyddfa docynnau newydd ac ystafell gymunedol newydd.
Mae arian wedi cael ei wario hefyd ar y bar, swyddfeydd a mynedfa i bobl anabl ar bob llawr.
Roedd disgwyl i'r theatr ailagor yn y gwanwyn ond bu'n rhaid gohirio ar 么l problemau strwythurol.
Cafodd Terry Jones, sy'n noddwr i'r theatr, ei eni ym Mae Colwyn.
Perfformiadau teuluol
Yn ogystal 芒 pherfformio'r seremoni agoriadol bydd Mr Jones yn cymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb ar 么l i'r sinema ddangos y ffilm 'Monty Python and the Holy Grail' .
"Mae Theatr Colwyn yn agos i'm nghalon i oherwydd bod fy nhaid wedi arwain y gerddorfa yno," meddai Mr Jones.
"Mae fy mam a'n hewythr hefyd wedi perfformio ar lwyfan y theatr."
Taid Mr Jones, William Newnes, oedd yn arwain y gerddorfa yn 1936 pan gafodd yr adeilad ei ailagor ar 么l iddo gael ei ddifrodi gan d芒n.
"Rydym yn si诺r y bydd ein cwsmeriaid yn hoffi'r modd y mae'r gwaith adnewyddu wedi digwydd," meddai Dywedodd hil Batty, rheolwr y theatr.
"Rydym yn edrych ymlaen at groesawu llawer o ymwelwyr newydd am y tro cyntaf hefyd."
Mae Theatr Colwyn eisoes wedi cyhoeddi rhaglen lawn o ddigwyddiadau am weddill y flwyddyn, sy'n cynnwys cynyrchiadau Cymraeg, dram芒u a chynyrchiadau dawnsio ballet.