Rygbi 13: Cymru yn fuddugol

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Disgrifiad o'r llun, Daeth Iestyn Harris yn hyfforddwr Cymru wedi ymadawiad John Dixon yn 2009

Roedd yna fuddugoliaeth gyffyrddus i d卯m rygbi 13 Cymru mewn gem baratoadol ar gyfer Pencampwriaeth y 4 Gwlad.

Llwyddodd t卯m Iestyn Harris i sgorio chwe chais wrth guro Iwerddon 30-6 ar y Gnoll yng Nghastell-nedd.

Croesodd Andrew Gay, Christiaan Roets, Tyson Frizell, Mark Lennon, Elliott Kear a Jordan James i Gymru, gyda Ian Webster yn cicio tair gol gosb.

Bydd g锚m gyntaf Cymru yn y gystadleuaeth go iawn yn erbyn Lloegr yn Leigh ar ddydd Sadwrn, Hydref 29.

Ers i Harris gael ei benodi'n hyfforddwr Cymru yn 2009, mae wedi mwynhau llwyddiant.

Enillodd Cymru'r hawl i chwarae ym Mhencampwriaeth y 4 Gwlad drwy ennill Cwpan Ewrop yn 2010 gan guro Ffrainc 12-11 yn Albi.

Cymru: Gay, Kear, Webster, Roets, R Williams, White, Watson, J James, Budworth, Kopczak, Frizell, Bracek, Lupton.

Eilyddion: Seamark, Flower, Dudson, Jones, L. Williams, Divorty, Lennon.