Cyhoeddi cytundeb rhwng S4C a'r 大象传媒
- Cyhoeddwyd
Mae S4C, y 大象传媒 ac Adran Diwylliant a Chyfryngau San Steffan wedi dod i gytundeb yngl欧n 芒'r trefniadau ar gyfer y Sianel yn y blynyddoedd nesaf.
Mae'n rhoi llais i'r 大象传媒 a Llywodraeth Cymru wrth benodi aelodau Awdurdod S4C yn ogystal 芒 chyfeiriad y Sianel yn y dyfodol.
Bydd y trefniadau yn amddiffyn annibyniaeth olygyddol a rheoli S4C, tra'n gwarchod atebolrwydd priodol i Ymddiriedolaeth y 大象传媒 yn ymwneud ag unrhyw arian o ffi'r drwydded sy'n cael ei wario ar gynnwys S4C.
Mae'r cytundeb yn ymwneud 芒 chyllideb, llywodraethiant ac atebolrwydd S4C tan 2017.
Daw'r cytundeb ar 么l i Lywodraeth San Steffan gyhoeddi'r llynedd y bydd mwyafrif sylweddol cyllid S4C yn dod o ffi'r drwydded ddarlledu.
Ers hynny mae'r 大象传媒 ac S4C wedi bod yn ceisio dod i gytundeb a fyddai yn cydbwyso atebolrwydd ac annibyniaeth olygyddol.
Amcanion y Sianel
Cafodd cyhoeddiad ei wneud ddydd Llun gan y 大象传媒 yngl欧n 芒'r cyllid fydd yn cael ei roi i S4C dros ddwy flynedd olaf Siarter y 大象传媒.
Mae'r cytundeb a gyhoeddwyd ddydd Mawrth yn rhoi cyfle i'r 大象传媒 leisio barn ar lunio fframwaith amcanion y Sianel, ond nid o ran rheolaeth o ddydd i ddydd.
Fe fydd 'na gyfarfodydd rheolaidd rhwng S4C a rheolwyr 大象传媒 Cymru er mwyn trafod cydweithio agosach i sichrau arbed arian.
Mae Awdurdod S4C wedi wynebu beirniadaeth dros y flwyddyn ddiwethaf ond fe fydd gan Lywodraeth Cymru a'r 大象传媒 lais yn y dyfodol o ran penodi aelodau'r awdurdod.
Mae Cadeiryddion y ddau sefydliad wedi croesawu'r datblygiadau er mwyn cytuno ar y materion dan sylw.
'Diogelu annibyniaeth'
Dywedodd yr Arglwydd Patten, Cadeirydd Ymddiriedolaeth y 大象传媒, bod hyn yn "newyddion da i'r gynulleidfa Gymraeg".
"Mae'r cytundeb yn diogelu annibyniaeth olygyddol S4C wrth sicrhau trosolwg effeithiol o wario arian ffi'r drwydded.
"Bydd hefyd yn creu perthynas weithredol agosach rhwng 大象传媒 Cymru a S4C, gan sicrhau bod arbedion yn cael eu hail-fuddsoddi mewn rhaglenni o ansawdd uchel o'r math mae'r gwylwyr yn disgwyl.
"Hoffwn dalu teyrnged i'n Hymddiriedolwr dros Gymru, Elan Closs Stephens, am ei chyfraniad pwysig i ganlyniad llwyddiannus y trafodaethau hyn."
Wrth groesawu'r cytundeb dywedodd Huw Jones, Cadeirydd Awdurdod S4C, bod y canlyniad yn gam pwysig ymlaen i'r Sianel ar ddiwedd trafodaethau hir a manwl rhwng y tri sefydliad.
"Mae'r fformiwla ariannu a gynigiwyd gan Ymddiriedolaeth y 大象传媒 am y cyfnod 2015-2017, ac a dderbyniwyd gan Awdurdod S4C, er ei bod yn heriol, yn cynnig sefydlogrwydd i S4C ac i'r sector gynhyrchu mewn hinsawdd economaidd anodd, tra byddwn yn adnabod a gweithredu effeithlonrwydd ac yn adeiladu partneriaeth newydd gyda'r 大象传媒.
"Mae Awdurdod S4C yn hapus i gymeradwyo'r cytundeb hwn ac yn edrych ymlaen at gymryd rhan yn y broses ymgynghoriad cyhoeddus mae'r Ysgrifennydd Gwladol wedi ymrwymo i'w chynnal."
'Pryderon'
Wrth groesawu'r cytundeb, dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones: "Rwy'n falch ein bod ni wedi cyrraedd diwedd cyfeillgar i beth sy'n amlwg wedi bod yn ddadl emosiynol a llawn tyndra.
"Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rydyn ni'n rheolaidd wedi datgan ein pryderon i Lywodraeth y DU ac Ymddiriedolaeth y 大象传媒 yngl欧n ag effaith unrhyw doriadau cyllideb mawr ar S4C a'i allu i wasanaethu cynulleidfa Gymreig."
Mewn datganiad dywedodd Gweinidog Cyfathrebu San Steffan, Ed Vaizey, bod y cytundeb yn "ganlyniad gwych i ddarlledu yn y Gymraeg".
"Nid dim ond sicrhau annibyniaeth golygyddol a rheolaeth S4C y mae hyn, ond mae hefyd yn cynnig sicrwydd ariannol am y pum mlynedd nesaf.
"Dwi'n hyderus bod hyn yn cynnig y sefydlogrwydd a'r sicrwydd y mae S4C ei angen er mwyn o nerth i nerth o dan eu Prif Weithredwr newydd a Chadeirydd newydd yr Awdurdod.
'Parhad'
Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr ar Dreftadaeth yn y Cynulliad, Suzy Davies AC:
"Mae hwn yn gytundeb hynod o bwysig a dwi'n ei groesawu'n llwyr.
"Roedd hi wastad yn hollbwysig sicrhau parhad gwasanaethau yn yr iaith Gymraeg trwy S4C - ynghyd 芒 chadw annibyniaeth olygyddol a gweithredol y Sianel."
Yn 么l Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:
"Mae natur y bartneriaeth a gyhoeddwyd heddiw yn dangos fod ymgyrchu miloedd o bobl Cymru dros y misoedd diwethaf wedi gwneud gwahaniaeth enfawr o dan yr amodau a osododd Jeremy Hunt, ac yn golygu fod y sefyllfa'n llawer iawn gwell nac y byddai fel arall.
"Rhaid nodi, o dan y cynlluniau hyn, ni fydd S4C yn parhau fel darlledwr annibynnol gan mai darlledwr arall fydd yn penderfynu ei chyllideb."
Cafodd y cytundeb ei selio cyn trafodaeth yn Nh欧'r Cyffredin ddydd Mawrth ar ddyfodol S4C.
Mae'r sefyllfa yn ddibynnol ar basio'r Mesur Cyrff Cyhoeddus yn llwyddiannus.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Hydref 2011
- Cyhoeddwyd24 Hydref 2011
- Cyhoeddwyd20 Hydref 2011
- Cyhoeddwyd6 Hydref 2011
- Cyhoeddwyd18 Hydref 2011