´óÏó´«Ã½

Gwelyau haul: Cyfyngiadau pellach

  • Cyhoeddwyd
Gwely haulFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Bydd yn drosedd i safleoedd gwelyau haul fod ar agor heb oruchwyliaeth o 31 Hydref

Mae Gweinidog Iechyd Cymru Lesley Griffiths wedi cyhoeddi y bydd rhaid i salonau gwelyau haul fod a staff yn goruchwylio cwsmeriaid.

Cafodd Deddf Gwelyau Haul ei chyflwyno ym mis Ebrill eleni ond mae'r rheolau newydd yn gosod rhagor o gyfyngiadau ar y diwydiant

Ar ol Hydref 31 bydd hi'n drosedd i salonau fod ar agor heb oruchwyliaeth.

Bydd cwmniau sy'n torri'r rheol yn wynebu dirwy o hyd at £20,000.

Cyflwynwyd y gwaharddiadau cyntaf ar y defnydd o weluau ym mis Ebrill eleni, pan gafodd Deddf Gwelyau Haul 2010 ei chyflwyno.

Roedd y ddeddf yn gwahardd pobl dan 18 rhag defnyddio gwelyau haul.

Yn ogystal â sicrhau bod yr holl safleoedd yn cael eu goruchwylio yn briodol, mae'r rheoliadau newydd hefyd yn:

• rhagnodi'r wybodaeth y mae'n rhaid ei harddangos a'i rhoi i oedolion a allai fod â diddordeb mewn defnyddio gwely haul;

• gwahardd darparu ac arddangos unrhyw ddeunydd sy'n ymwneud ag effeithiau iechyd sy'n deillio o ddefnyddio gwelyau haul, ar wahân i'r deunydd sy'n cynnwys yr wybodaeth am iechyd sydd wedi'i rhagnodi.

• gofyn bod gorchudd amddiffynnol a phriodol dros y llygaid yn cael ei ddarparu i oedolion a'i wisgo ganddynt.

Trwy ei gwneud yn orfodol i ddarparu gwybodaeth am iechyd, bydd cwsmeriaid yn ymwybodol o'r goblygiadau i iechyd yn sgil defnyddio gwelyau haul.

Canser

Er enghraifft, bod mwy o risg cael canser y croen neu niwed i'r llygaid.

Bydd hyrwyddo gwelyau haul trwy honni eu bod yn fuddiol i iechyd yn cael ei wahardd o dan y rheoliadau hyn.

Awdurdodau Lleol fydd yn gyfrifol am orfodi'r rheoliadau newydd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi £122,000 i awdurdodau lleol yn 2011/12 i'w helpu i gyflwyno a gorfodi'r rheoliadau.

Dywedodd Lesley Griffiths: "Does dim amheuaeth ymhlith arbenigwyr iechyd y gallai gwelyau haul fod yn niweidiol iawn.

"Maen nhw wedi'u cysylltu â chanser y croen, niwed i'r llygaid a chroen yn heneiddio cyn amser.

"O 31 Hydref, bydd yn drosedd i safleoedd gwelyau haul fod ar agor heb oruchwyliaeth, neu i werthu neu logi gwely haul i unrhyw un o dan 18 oed.

"Os bydd rhywun dros 18 oed am ddefnyddio un o'r gwelyau hyn, rhaid i'r safle gynnig gorchudd amddiffynnol ar gyfer ei lygaid.

Dywedodd Sarah Woolnough, Cyfarwyddwr Polisi, Ymchwil Canser y DU: "Nid yw gwely haul yn ffordd ddiogel o gael lliw haul.

"Mae defnyddio gwely haul cyn bod yn 35 oed yn cynyddu'r risg o gael melanoma malaen, y math mwyaf peryglus o ganser y croen, a hynny 75 y cant."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r ´óÏó´«Ã½ ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol