Cur pen pleserus i'r Scarlets wrth ddewis maswr
- Cyhoeddwyd
Mae'r hyfforddwr Nigel Davies wedi dweud y bydd rhaid ystyried bob g锚m yn unigol wrth ddewis maswr y Scarlets.
Cafodd dau faswr y rhanbarth, Rhys Priestland a Stephen Jones, gystadleuaeth dda yng Nghwpan y Byd yn Seland Newydd.
Jones oedd y dewis cyntaf y tymor diwethaf, gyda Priestland yn aml yn chwarae fel cefnwr, ond fe gafodd Priestland gystadleuaeth wych cyn iddo gael anaf yn y fuddugoliaeth dros Iwerddon yn rownd yr wyth olaf.
'Sefyllfa wych'
"Mae'n dibynnu ar y gemau penodol," meddai Davies.
"Mae rhai chwaraewyr yn siwtio rhai gemau yn well.
"Mae'n sefyllfa wych i fod ynddi.
"Mae'n well gen i fod yn y sefyllfa yma na pheidio cael dewis o gwbl.
"I ryw raddau roedd yr un broblem gen i'r tymor diwethaf ond efallai nad oedd pawb yn ymwybodol o hynny. Roedden ni'n aml yn trafod pwy fyddai'n chwarae rhif 10.
"Mae cael dau chwaraewr o'r safon yna yn beth ffantastig i'r t卯m.
Cafodd Priestland ei gyfle cyn Cwpan y Byd pan gafodd Stephen Jones a James Hook anafiadau.
Buan iawn y daeth y chwaraewr 24 oed yn ddewis cyntaf, ac fe gafodd g锚m wych yn y fuddugoliaeth dros Iwerddon.
Yn anffodus, fe gafodd anaf i'w ysgwydd tua diwedd y g锚m honno a ddaeth a'r gystadleuaeth i ben iddo.
Bydd yr anaf yna yn ei gadw allan o d卯m y Scarlets am bythefnos arall, ac ni fydd ar gael i wynebu Ulster yng nghystadleuaeth y RaboDirect Pro12 y Sadwrn yma, na'r Gweilch y penwythnos canlynol.
Er gwaethaf hynny, mae Davies yn credu fod Priestland wedi creu enw da iawn i'w hunan.
"Rwyf wrth fy modd drosto fe," meddai.
"Fe gafodd gystadleuaeth wych a dangos i bawb beth yw ei botensial.
"Ry'n ni'n ffodus i gael lot o safon yn safle'r maswr, ac mae'n sefyllfa fendigedig i ni."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Hydref 2011