Gerallt Lloyd Owen yn gadael Talwrn y Beirdd
- Cyhoeddwyd
Wedi dros 30 mlynedd fe fydd cyfnod Gerallt Lloyd Owen ar Dalwrn y Beirdd yn dod i ben.
Mae'r prifardd wedi cadarnhau na fydd yn dychwelyd ar gyfer y gyfres nesaf ar 大象传媒 Radio Cymru.
Fo sydd wedi bod yn Feuryn ar y rhaglen farddoniaeth boblogaidd am 32 mlynedd.
"Dwi wedi gwneud 32 o flynyddoedd fel Meuryn ac efallai ei bod hi yn bryd rhoi cyfle i rywun arall," meddai.
"Wedi'r cyfan dwi wedi bod yn gwneud y Talwrn am hanner fy oes.
"Mae wedi bod yn gyfnod rhyfeddol o hapus a dwi wedi gwneud llawer iawn o ffrindiau ledled Cymru dros y blynyddoedd."
'Elwa'
Dywedodd Si芒n Gwynedd, Golygydd Radio Cymru a Theledu Cymraeg y 大象传媒, mai Gerallt Lloyd Owen fu llais Y Talwrn ar 大象传媒 Radio Cymru ers y cychwyn cyntaf.
"Mae'n sicr yn ddiwedd cyfnod wrth iddo ollwng yr awenau.
"Mae gwrandawyr yr orsaf a'r beirdd niferus y bu'n Feuryn arnynt ar hyd y blynyddoedd wedi elwa o'i sylwadau treiddgar, ei gof toreithiog a'i hiwmor parod.
"Mae'n wir dweud ei fod ef a'r Talwrn wedi sicrhau bod barddoniaeth yn parhau i fod yn gyfoes a difyr ymysg Cymry Cymraeg.
"Hoffwn i ar ran 大象传媒 Radio Cymru ddiolch i Gerallt am y cyfraniad aruthrol a wnaeth ar hyd yr holl flynyddoedd a dwi'n si诺r bod y gwrandawyr hefyd yn ymuno a mi wrth ddiolch a dymuno'r gorau iddo."