大象传媒

Cynnydd yn nifer achosion y pas

  • Cyhoeddwyd
BrechiadFfynhonnell y llun, Not Specified
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r brechlyn 5 mewn 1 yn cael ei argymell

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi galw ar rieni i sicrhau bod eu plant yn derbyn brechiadau wedi cynnydd yn nifer yr achosion o'r pas.

Rhwng Ionawr a Hydref 23 eleni, bu 37 achos o'r pas ar draws Cymru.

Mae hyn yn cymharu ag 14 achos drwy Gymru yn ystod 2010.

Mae'r pas yn salwch difrifol, yn arbennig ymysg plant ifanc iawn.

Y prif symptomau yw pyliau o beswch sydd, ymysg babanod a phlant, yn mynd law yn llaw 芒 s诺n 'h诺p' wrth i'r plentyn geisio cael ei anadl ar 么l pesychu.

Fel arfer mae'r symptomau hyn yn para am tua chwe wythnos.

'Meithrin imiwnedd'

Cynigir brechlyn y pas i blant yn ddau, tri a phedwar mis oed fel rhan o'r brechlyn 5 mewn 1.

Dylent gael pigiad atgyfnerthu pan fyddant yn dair a phedwar mis oed cyn iddynt ddechrau'r ysgol.

Dywed Iechyd Cyhoeddus Cymru ei bod hi'n bwysig bod plant yn cael pob dos er mwyn iddynt allu meithrin imiwnedd cryf i'r clefyd.

Mae'r brechlyn wedi ei gynllunio i amddiffyn plant yn erbyn pump o heintiau :-

  • Polio;

  • Difftheria;

  • Tetanws;

  • Y Pas;

  • Haemophilus influenzae B (Hib) - bacteria all achosi heintiau difrifol fel llid yr ysgyfaint a llid yr ymennydd.

3 i 4 blynedd

Dywedodd Dr Richard Roberts, Pennaeth y Rhaglen Clefydau y Gellir eu Hatal Drwy Frechlyn, Iechyd Cyhoeddus Cymru:

"Mae'r pas fel pe bai yn ei anterth bob tair i bedair blynedd, a'r tro diwethaf oedd 2008. Mae sicrhau bod plant yn cael eu holl frechiadau'n bwysig iawn.

"Mae brechu yn ffordd effeithiol iawn o atal y clefyd difrifol hwn. Yn ogystal ag atal plant ifanc rhag dal y clefyd mae hefyd yn eu hatal rhag ei drosglwyddo i'w brodyr a'u chwiorydd iau, a allai fod yn rhy ifanc i fod wedi cael cwrs llawn o frechiadau. "

Dylai unrhyw un sy'n pryderu am eu hiechyd gysylltu 芒'u meddyg teulu neu 芒 Galw Iechyd Cymru ar 0845 46 47.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 大象传媒 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol