大象传媒

Archesgob: 'Iawn i brotestwyr gysgodi'

  • Cyhoeddwyd

Mae Archesgob Cymru wedi dweud y byddai'n caniat谩u i brotestwyr gysgodi dros nos yn Eglwys y Gadeirlan Llandaf pe bydden nhw'n gwersylla y tu allan.

Pe na fyddai protestwyr yn amharu ar fywyd y gadeirlan, dywedodd y Dr Barry Morgan y byddai croeso iddyn nhw y tu mewn.

Daw ei sylwadau wrth i brotestwyr gwrth-gyfalafiaeth sy'n gwersylla y tu allan i Eglwys Gadeirlan St Paul yn Llundain gael gorchymyn swyddogol i adael.

Mae'r protestwyr wedi bod y tu allan i'r eglwys honno ers dros fis gan orfodi'r gadeirlan i gau ei drysau am y tro cyntaf ers yr Ail Ryfel Byd oherwydd pryderon iechyd a diogelwch.

Mae'r mater hefyd wedi achosi rhwyg ymhlith aelodau o awdurdod y Gadeirlan yno.

Dywedodd Dr Morgan wrth 大象传媒 Cymru y byddai Eglwys Gadeirlan Llandaf yn aros yn agored o dan amgylchiadau tebyg.

'Addoli a deialog'

"Pe byddai hyn yn digwydd y tu allan i Eglwys Gadeiriol Llandaf, dwi'n gobeithio y byddem yn parhau i gynnal gwasanaethau.

"Dwi'n gobeithio y byddai pobol yn deall mai lle i addoli ydyw, lle ar gyfer deialog, ac y byddai croeso iddyn nhw ddod i mewn.

"Felly bydden i'n gobeithio y byddai'r drysau yn aros ar agor".

Dywedodd fod "dallineb moesol" gan fancwyr yn mwynhau taliadau bonws hael iawn ar 么l i rai banciau fynd i'r wal.

Mae'r eithafion o gyfoeth a thlodi mewn cymdeithas, meddai, yn awgrymu "efallai ein bod wedi cael pethe'n anghywir", meddai.

Cyhuddo

Ddydd Gwener ddiwethaf roedd 30 o brotestwyr gwrth-gyfalafol wedi sefydlu gwersyll Meddiannu Caerdydd fel rhan o ymgyrch fyd-eang yn erbyn byd bancio.

Mae dyn 36 oed a llanc 17 oed wedi eu cyhuddo o dresmasu wedi'r brotest tu allan i Gastell Caerdydd.

Fe fydd y ddau, sydd ar fechn茂aeth, gerbron Ynadon Caerdydd ar Dachwedd 28.

Dywedodd yr heddlu fod tri dyn a menyw wedi cael rhybudd.

Roedd chwech wedi cael eu harestio am nad oedden nhw wedi dilyn cyfarwyddyd i adael tir, yn groes i Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 大象传媒 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol