大象传媒

Ceri Wyn yw Meuryn Talwrn Y Beirdd

  • Cyhoeddwyd
Ceri Wyn jonesFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Ceri Wyn Jones wedi ennill Coron a Chadair yr Eisteddfod Genedlaethol

Y Prifardd Ceri Wyn Jones yw Meuryn newydd Talwrn Y Beirdd.

Mae 大象传媒 Cymru wedi cyhoeddi mai fo fydd yn olynu Gerallt Lloyd Owen oedd yn Feuryn am 32 flynedd.

Mae Ceri Wyn Jones yn llais ac wyneb cyfarwydd ym myd talyrnau ac ymryson.

Enillodd Gadair Eisteddfod yr Urdd yn 1995 ac yna Cadair Eisteddfod Meirion a'r Cyffiniau yn 1997 a eto ym Meirion.

Fo oedd .

Cyrhaeddodd ei gyfrol gyntaf o gerddi, sef Dauwynebog, , ac fe'i disgrifiwyd gan y beirniaid fel "un o feirdd gorau ei genhedlaeth".

Bu'n feirniad cystadleuaeth y Gadair yn Eisteddfodau Cenedlaethol 2006 a 2009.

Mae'n Olygydd Llyfrau gyda Gwasg Gomer ac yn byw yn Aberteifi gyda'i wraig a thri o feibion.

Disgrifiad,

Y Prifardd Ceri Wyn Jones fydd yn olynu Gerallt Lloyd Owen ar raglen radio Talwrn y Beirdd.

"Bydd dilyn 么l troed trysor cenedlaethol yn her," meddai am olynu Gerallt Lloyd Owen.

"Ond mae'n her sydd hefyd yn anrhydedd enfawr a chyffrous, yn gyfle i feithrin cenhedlaeth newydd o feirdd a gwrandawyr yn ogystal 芒 sicrhau bod y selogion yn para'n rhan ganolog o lwyddiant y gyfres."

Wrth gyhoeddi'r newyddion ddydd Llun dywedodd Si芒n Gwynedd, Golygydd 大象传媒 Radio Cymru, ei bod yn falch.

'Uchel ei barch'

"Mae'r Talwrn yn rhaglen mor bwysig yn amserlen Radio Cymru.

"Mae Ceri yn frwd, yn ffraeth ac yn feistr yn ei faes ac rydyn ni yn hyderus y bydd yn ddewis poblogaidd ymysg dilynwyr y gyfres.

"Mae'n uchel iawn ei barch o fewn byd y beirdd eu hunain hefyd ac mae'n si诺r o ddod 芒'i syniadau a'i arddull ei hun i'r gyfres."

Roedd Gerallt Lloyd Owen, a enillodd y Gadair yn Eisteddfod Bro Dwyfor yn 1975 ac yn Eisteddfod Abertawe yn 1982, wedi dweud ei bod hi'n bryd i roi cyfle i rywun arall am ei fod wedi bod yn Feuryn am hanner ei oes.

Yn 么l y 大象传媒, bydd recordiad cyntaf Ceri Wyn Jones fel Meuryn yn digwydd yn ei filltir sgw芒r, yng Ngwesty'r Emlyn, Tanygroes, ar Ionawr 10 cyn cael ei ddarlledu ar y dydd Sul a'r dydd Mawrth canlynol.

Os oes cymdeithas neu glwb yn dymuno croesawu'r Talwrn i'w hardal yn y flwyddyn newydd, mae croeso iddyn nhw gysylltu 芒 ytalwrn@bbc.co.uk neu Y Talwrn, 大象传媒 Cymru, Brynmeirion Bangor Gwynedd LL57 2BY.

Hefyd gan y 大象传媒