大象传媒

Diogelu data: Methiannau'r heddlu

  • Cyhoeddwyd
Car heddluFfynhonnell y llun, bbc
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Gwnaed cais dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth i'r pedwar llu heddlu Cymreig

Mae heddluoedd Cymru wedi cofnodi 85 achos o fethu 芒 chydymffurfio 芒'r Ddeddf Diogelu Data dros y pum mlynedd diwethaf.

Mae cais dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth i'r pedwar llu heddlu Cymreig gan 大象传媒 Newyddion Ar-lein wedi datgelu nifer o achosion ble mae staff wedi defnyddio system gyfrifiadurol genedlaethol yr heddlu er mwyn cael gafael ar fanylion personol i ddibenion heb fod yn gysylltiedig 芒 phlismona.

Mae Heddlu De Cymru wedi cofnodi 26 digwyddiad lle mae swyddog neu staff wedi torri'r ddeddf Ddeddf Diogelu Data ers 2006.

Mae'r enghreifftiau'n cynnwys chwilio am wybodaeth am fenywod y cysylltwyd 芒 hwy am bwrpas rhywiol, rhywun yn chwilio am wybodaeth am ffrind ei ferch, pum enghraifft o chwilio am wybodaeth o aelod o'r teulu, a chwilio am wybodaeth am denantiaid posib.

Yn 么l Heddlu Gwent, nid ydynt wedi torri'r Ddeddf Diogelu Data ar unrhyw achlysur yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf.

Nid oedd Heddlu Dyfed Powys yn dal gwybodaeth am dramgwyddiadau o'r Ddeddf Diogelu Data yn 2006, 2007 nac 2010.

Ond yn 2008:

  • Datgelodd aelod o staff Heddlu Dyfed-Powys wybodaeth sensitif drwy e-bost i gyfeiriad e-bost preifat anniogel - rhoddwyd geiriau o gyngor i'r aelod staff gan uwch swyddog.

  • Cynhaliwyd gwiriadau gan swyddog yr heddlu ar system gyfrifiadurol yr heddlu er budd personol, - rhoddwyd rhybudd ysgrifenedig i'r swyddog.

  • Defnyddiwyd Cyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu mewn modd anaddas gan swyddog er mwyn cynnal gwiriadau ar gerbyd am resymau personol. Cynhaliwyd gwiriadau pellach ar Gyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu gan yr un swyddog am resymau eraill heblaw yng nghyswllt dyletswyddau heddlu. Cafodd y swyddog ei ddiswyddo.

Yn 2009 yn Heddlu Dyfed Powys:

  • Gwiriodd swyddog heddlu systemau data'r heddlu at ddibenion heblaw am gwrs dyletswydd- rhoddwyd geiriau o gyngor i'r aelod staff gan uwch swyddog.

  • Cynhaliwyd gwiriadau gan swyddog heddlu ar systemau gwybodaeth yr heddlu er budd personol - rhoddwyd rhybudd ysgrifenedig i'r swyddog.

  • Datgelodd swyddog heddlu wybodaeth o ganlyniad i wiriad heb ganiat芒d - cafodd y swyddog heddlu ei ddiswyddo.

  • Mynediad anawdurdodedig i wybodaeth bersonol ar amryw o systemau cyfrifiadurol yr heddlu gan aelod o staff - Ymddiswyddodd yr aelod staff o'r heddlu.

Yn ardal Heddlu Gogledd Cymru, cafwyd saith o gyhuddiadau o gael mynediad at wybodaeth i ddibenion heb fod yn gysylltiedig 芒 phlismona yn 2006, un yn 2007, 12 yn 2008, 17 yn 2009 ac wyth yn 2010.

Yn ogystal, cafwyd tri chyhuddiad o ddadlennu gwybodaeth yn 2007, dau yn 2008, un yn 2009 ac un yn 2010.

'O ddifrif'

Dywedodd Heddlu'r Gogledd: "Rydym yn cymryd diogeledd a diogelwch data a gwybodaeth o ddifrif ac ymchwilir yn drylwyr i bob toriad o'r Ddeddf Diogelu Data ble honnir bod y fath doriad wedi digwydd.

"Cynhelir archwiliadau yn rheolaidd a chaiff unrhyw aelod o Heddlu Gogledd Cymru y canfyddir ei fod/bod wedi torri rheolau diogelu data ei ddisgyblu/disgyblu.

"Yn yr achosion mwyaf difrifol mae Heddlu Gogledd Cymru wedi erlyn a bydd yn parhau i erlyn troseddau o'r fath mewn llys troseddau yn ychwanegol at ddwyn achosion camymddygiad mewnol".

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 大象传媒 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol